Os ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i smygu, ‘does dim adeg gwell na nawr. Rydym wrthi yn gweithio o hyd yn ystod Covid-19 i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd i ddyfodol ddi-fwg. Er nad yw ein gwasanaethau wyneb yn wyneb ar gael ar hyn o bryd, gallwch gael cefnogaeth Helpa Fi i Stopio dros y ffôn o hyd a derbyn meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu am ddim.
Nodwch eich manylion a bydd y tîm Helpa Fi i Stopio yn eich ffonio’n ôl
I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.