Mae defnyddio cymorth am ddim y GIG a meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu yn rhoi’r cyfle gorau i chi roi’r gorau i smygu unwaith ac am byth
Byddwch yn gallu siarad ag arbenigwr roi’r gorau i smygu am y camau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gorau iddi a sut y gallwch oresgyn sefyllfaoedd anodd
Byddwch yn gallu gwirio eich cynnydd
Bydd meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu gwerth tua £250 ar gael i chi am ddim. Bydd y feddyginiaeth hon yn eich helpu i reoli’r ysfa i smygu a symptomau rhoi’r gorau iddi
Mynd i bob un o’ch apwyntiadau wythnosol. Bydd hyn yn rhoi’r siawns orau i chi o lwyddo. Yn dibynnu ar y math o gymorth rydych chi’n dewis, gall apwyntiadau bara rhwng 20 munud ac awr
Pennu dyddiad ar gyfer rhoi’r gorau iddi a dechrau ar eich taith ddi-fwg o fewn y pythefnos gyntaf
I gael meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu am ddim, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu (neu ddefnyddio gwasanaeth Helpa Fi i Stopio)
Bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cynghori ar y feddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu orau i chi. Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi rhoi cynnig arno o’r blaen a’ch hanes meddygol
Fel arfer, mae meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu yn cael ei darparu am tua 12 wythnos
Mae ceisio rhoi’r gorau iddi ar eich pen eich hun yn gallu bod yn anodd. Mae hunan gymorth, gan gynnwys aps megis Smoke Free – quit smoking now, gwefannau a sigarennau electronig yn gallu gwella’ch siawns o lwyddo
Am ragor o wybodaeth am sigarennau electronig cliciwch yma
Smoke Free – quit smoking now yw un o’r aps mwyaf poblogaidd ar gyfer rhoi’r gorau i smygu ac mae ar gael am ddim
Os ydych yn awyddus i roi’r gorau iddi ar unwaith, gallwch fonitro eich cynnydd ar yr ap Smoke Free – quit smoking now
Mae Smoke Free – quit smoking now yn eich galluogi i logio’r nifer o ddyddiau rydych chi wedi rhoi’r gorau iddi ac unrhyw sefyllfaoedd anodd rydych wedi eu hwynebu. Mae hefyd yn rhoi awgrymiadau a chyngor i’ch ysgogi chi
Bydd Smoke Free – quit smoking now hefyd yn rhoi gwybod i chi a oes angen mwy o gymorth arnoch chi gan un o wasanaethau Helpa Fi i Stopio