Gofynnwch I ni eich ffonio'n Ôl
Lansiwyd Helpa Fi i Stopio yn 2017, ac mae’n:

un brand ar gyfer gwasanaethau stopio smygu’r GIG yng Nghymru
gwefan ddwyieithog gyda gwybodaeth am holl wasanaethau stopio smygu’r GIG yng Nghymru
darparu mynediad i smygwyr at holl wasanaethau stopio smygu’r GIG drwy dîm canolfan gyswllt
ei gwneud hi’n haws i smygwyr ddewis cymorth stopio smygu gorau’r GIG ar eu cyfer nhw yn eu hardal leol
y dewis gorau y gall smygwr ei wneud i roi’r gorau i smygu

Egwyddorion Craidd GIG Cymru

Mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn ymdrechu i fodloni Egwyddorion Craidd GIG Cymru, sy’n esbonio:

Ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i’n cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau
Ein bod ni’n ceisio gwella ein gofal
Ein bod ni’n canolbwyntio ar les ac atal
Ein bod ni’n myfyrio ar ein profiadau a dysgu
Ein bod ni’n gweithio mewn partneriaeth ac fel tîm
Ein bod ni’n gwerthfawrogi pawb sy’n gweithio i’r GIG.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth bellach am wasanaethau Helpa Fi i Stopio cliciwch yma.

Ydych chi’n smygwr?

Os ydych chi’n barod i roi cynnig ar roi’r gorau iddi, cliciwch yma fel arall, gallwch gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol ar 0800 085 2219 neu anfonwch HMQ mewn neges destun at 80818.

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Os ydych chi’n chwilio am fwy o wybodaeth am wasanaethau Helpa Fi i Stopio, cliciwch yma.

Ydych chi'n cefnogi neu'n gweithio gydag ysmygwyr?
  1. Helpa Fi i Stopio yw’r ffordd orau i stopio smygu
  2. Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o stopio smygu gyda chymorth stopio smygu’r GIG na thrwy fynd ati ar eich pen eich hun
  3. Mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn rhan o’r GIG, yn rhad ac am ddim, yn effeithiol, ac wedi cael eu teilwra i anghenion smygwyr
  4. Mae Helpa Fi i Stopio yn cydnabod nad yw pob smygwr yr un peth a bod eu hanghenion cymorth yn gwahaniaethu
  5. Mae Helpa Fi i Stopio yn un man cyswllt ar gyfer smygwyr sy’n dewis y cymorth stopio smygu gorau iddyn nhw
  6. Gall smygwyr ffonio 0800 085 2219, anfon HMQ mewn neges destun at 80818 neu fynd i helpafiistopio.cymru  i gyrchu cymorth stopio smygu’r GIG

Os oes angen adnoddau Helpa Fi i Stopio arnoch, fel cardiau cyfeirio, posteri neu boster digidol, ewch i Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.

Mae nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gael yng Nghymru, ar-lein ac wyneb yn wyneb. I weld y rhestr lawn o ddarpariaeth hyfforddi, ewch i wefan ‘Gwneud i bob cyswllt gyfrif’ lle cewch wybodaeth o dan y pwnc ‘Ysmygu’, yn ‘Gwybodaeth ffordd o fyw’.

 

Smygu yw’r achos mwyaf o farwolaeth osgoadwy yng Nghymru o hyd, gyda dros 5,500 o bobl yn marw’n gynnar yn sgil smygu yn 2015.

Bydd tîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn prosesu pob cyfeiriad ac yn cael sgrws dros y ffôn â’r smygwr i lunio ei ‘daith rhoi’r gorau i smygu’, a chynnig dewis o gymorth grŵp, 1:1 neu dros y ffôn, gan amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau stopio smygu’r GIG yn ardal leol y smygwr.

Mae ymgyrch Helpa Fi i Stopio yn gyfle delfrydol i adfywio eich llwybrau cyfeirio ac annog mwy o smygwyr i gael y cymorth gorau i roi’r gorau i smygu.

Gallwch gyfeirio smygwr at Helpa Fi i Stopio trwy sefydlu llwybr cyfeirio electronig, trwy ‘Quit Manager’. Anfonwch neges e-bost at helpafiistopio@wales.nhs.uk i gael mwy o wybodaeth. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio ar-lein yma.