Ardal Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Beth yw Helpa Fi i Stopio?

Sicrhau dyfodol iachach, di-fwg i bawb.

Helpa Fi i Stopio yw’r gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu cenedlaethol yng Nghymru. Mae Helpa Fi i Stopio yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a thorri’n rhydd o afael caethiwus tybaco.

Trwy ddarparu cymorth tosturiol un i un, cymorth dros y ffôn, arweiniad arbenigol, ac adnoddau wedi’u personoli, mae Helpa Fi i Stopio yn helpu miloedd o smygwyr yng Nghymru bob blwyddyn i gyflawni eu nod o fyw yn ddi-fwg.

Gallwch gyfeirio eich cleifion trwy glicio ar y botwm isod.

Manteision atgyfeirio cleifion at Helpa Fi i Stopio:

Mae gan Weithwyr Iechyd Proffesiynol rôl bwysig, wrth iddyn nhw fanteisio ar bob cyfle i roi gwybod i gleifion am beryglon smygu ac i gefnogi eu lles cyffredinol.

Gall atgyfeirio cleifion at Helpa Fi i Stopio fod yn un o’r camau gweithredu mwyaf effeithiol i wella eu hiechyd a’u hansawdd bywyd. Dyma rai o fanteision cadarnhaol atgyfeirio cleifion at Helpa Fi i Stopio.

  • Gwella Iechyd Cardiofasgwlaidd:

    Mae cleifion sy’n rhoi’r gorau i smygu 43% yn llai tebygol o gael ail achos o syndrom coronaidd acíwt, mae eu cyfradd marwolaethau 36% yn is ddwy flynedd ar ôl rhoi’r gorau i smygu, ac maen nhw’n 39% yn llai tebygol o farw neu fynd i’r ysbyty oherwydd methiant y galon.

  • Gwella Iechyd Deintyddol:

    Mae rhoi’r gorau i smygu yn gwella iechyd y deintgig trwy sicrhau hyd at 30% yn llai o golledion esgyrn radiograffig, llai o fewnblaniadau deintyddol sy’n methu, a llawer llai o risg o bydredd dannedd, gan hybu iechyd y geg yn gyffredinol.

  • Mwy o ganlyniadau cadarnhaol wrth gael triniaethau gan oncolegydd:

    Mae rhoi’r gorau i smygu yn hybu goroesiad a llwyddiant triniaeth ar gyfer gwahanol fathau o ganser, gan gynnwys cyfradd oroesi hyd at 70% yn uwch ar gyfer canser y bledren, 50% ar gyfer canser y colon a’r rhefr, a 30-50% ar gyfer canser yr ysgyfaint. Hefyd, mae’n lleihau cyfraddau ailheintiad a chymhlethdodau ar gyfer sawl math arall o ganser.

Ysbytai di-fwg yng Nghymru:

Ers mis Mawrth 2021, mae holl diroedd ysbytai Cymru wedi'u dynodi'n ardaloedd di-fwg yn gyfreithiol, sy'n gam mawr tuag at leihau effaith smygu ar gleifion, ymwelwyr a staff gofal iechyd. Mae'r penderfyniad hwn yn dangos ymroddiad Cymru i arwain y ffordd tuag at greu amgylcheddau di-fwg ledled y byd.

Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd i roi cyngor ar sail tystiolaeth i smygwyr ar roi’r gorau i smygu a sôn wrthyn nhw am bolisi di-fwg yr ysbyty. Dylid darparu therapi disodli nicotin (NRT) neu ffarmacotherapi yn brydlon o fewn pedair awr i dderbyn y claf, gan gydymffurfio ag arferion safon aur. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gynnig atgyfeiriadau optio allan i dîm rhoi’r gorau i smygu ysbytai i’r holl smygwyr a nodir, a fydd yn derbyn cynlluniau rhoi’r gorau i smygu wedi’u personoli ar sail eu dewisiadau.

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol... Diolch!

Mae Helpa Fi i Stopio yn diolch i’r holl Weithwyr Iechyd Proffesiynol am eu hymroddiad a’u cyfraniad amhrisiadwy at Gymru Ddi-fwg ac am helpu unigolion ar eu taith i roi’r gorau i smygu am byth. Mae eich ymroddiad yn elfen hanfodol o’r ymdrech i wella lles cleifion, ymwelwyr a chydweithwyr. Mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.