Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin am roi'r gorau i smygu gyda Helpa Fi i Stopio
Pam ddylwn i ddefnyddio Helpa Fi i Stopio yn hytrach na rhoi'r gorau i smygu ar fy mhen fy hun?
Trwy ddefnyddio Helpa Fi i Stopio, rwyt ti hyd at dair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu na phobl sy’n ceisio stopio ar eu pennau eu hunain. Mae ein cynghorwyr arbenigol yn darparu cymorth personol, mynediad at feddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu trwyddedig, a strategaethau llwyddiannus i dy helpu i reoli’r ysfa am sigarét ac aros ar y trywydd iawn. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, bydd gen ti fwy o siawns o lwyddo!
Dwi wedi ceisio rhoi'r gorau iddi o'r blaen ond wnes i ddim llwyddo. Fydd Helpa Fi i Stopio wir yn gallu gweithio i fi?
Bydd, a dwyt ti ddim ar dy ben dy hun! Mae llawer o bobl yn ceisio rhoi’r gorau i smygu sawl gwaith cyn llwyddo am byth. Mae Helpa Fi i Stopio yn rhoi’r cymorth a’r adnoddau ychwanegol i ti oresgyn yr heriau ac aros yn ddi-fwg. Bydd dy gynghorydd yn dy helpu i ddysgu o brofiadau’r gorffennol a chreu cynllun sy’n gweithio i ti.
Faint mae'n ei gostio i ddefnyddio Helpa Fi i Stopio?
Dim ceiniog! Mae Helpa Fi i Stopio ar gael yn rhad ac am ddim, ac rydyn ni’n gallu darparu gwerth hyd at £250 o feddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu trwyddedig am ddim. Bydd rhoi’r gorau i smygu yn arbed arian i ti yn yr hirdymor hefyd. Mae’r smygwr cyffredin yn arbed miloedd o bunnoedd bob blwyddyn. Er enghraifft, bydd pobl sy’n smygu 20 sigarét y dydd yn arbed tua £5000 y flwyddyn.
Ydy Helpa Fi i Stopio yn gallu helpu plant a phobl ifanc sy'n smygu?
Ydy, mae Helpa Fi i Stopio yn gallu cynorthwyo pobl ifanc 12 oed a hŷn sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu. Rydyn ni’n ceisio darparu cyngor a chymorth sy’n addas i dy oedran a dy anghenion. Er ei bod yn well cael cydsyniad rhieni, does dim angen cydsyniad bob tro—byddwn ni’n helpu pob person ifanc i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Os wyt ti’n rhiant neu’n ofalwr sydd eisiau trafod cael help ar gyfer person ifanc, mae croeso i ti gysylltu â’n tîm.
Pwy sy'n cymryd rhan yn y grwpiau? Fydd rhaid i fi sefyll i fyny a siarad?
Mae grwpiau yn ffordd wych o roi’r gorau i smygu am eu bod nhw’n cynnig cymorth ac anogaeth gan bobl eraill sydd ar yr un daith â ti. Fe gei di gyngor ymarferol gan bobl sy’n deall y profiad o geisio rhoi’r gorau i smygu, a byddi di’n dysgu sut maen nhw’n rheoli’r ysfa am sigarét a beth sy’n achosi ysfa o’r fath.
Does dim pwysau arnat ti i siarad os nad wyt ti eisiau, a does dim disgwyl i ti rannu unrhyw wybodaeth sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus. Galli di hyd yn oed siarad gydag arbenigwr rhoi’r gorau i smygu yn breifat cyn neu ar ôl y sesiwn.
Pa feddyginiaethau sydd ar gael i mi drwy Helpa Fi i Stopio?
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig mynediad at amrywiaeth o feddyginiaethau trwyddedig AM DDIM, gan gynnwys therapi disodli nicotin (fel patsh, gwm a chwistrellau) ac opsiynau presgripsiwn fel Varenicline. Gall y triniaethau hyn ei gwneud hi’n haws i ti roi’r gorau i smygu trwy leihau symptomau dod oddi ar nicotin a’r ysfa amdano.
Dwi wedi defnyddio Helpa Fi i Stopio o'r blaen, ga’i gofrestru eto?
Cei, wrth gwrs! Mae croeso i ti ddefnyddio Helpa Fi i Stopio faint fynni di. Efallai y bydd angen i ti roi sawl cynnig ar roi’r gorau i smygu, a phob tro rwyt ti’n rhoi cynnig arni, byddi di’n dysgu mwy am beth sy’n gweithio i ti.
Weithiau mae’n syniad da gadael ychydig o fwlch rhwng pob ymdrech i roi’r gorau i smygu er mwyn meddwl am yr holl beth a pharatoi am dy ymdrech nesaf. Mae’n bosib y byddwn ni’n awgrymu dy fod yn aros tua chwe mis cyn ailddefnyddio’r gwasanaeth, ond mae ein tîm ar gael i dy helpu i benderfynu pryd yw’r amser gorau i roi cynnig arall arni. Cofia, bydd pob ymdrech i roi’r gorau i smygu yn mynd â ti gam yn nes at lwyddo!
Dwi ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Fydda i’n dal i allu cael gafael ar help?
Yn bendant! Mae llawer o wasanaethau Helpa Fi i Stopio yn gallu darparu mynediad at gyfieithwyr trwy wasanaeth cyfieithu dros y ffôn sy’n cynnwys dros 150 o ieithoedd. Cysyllta â thîm Helpa Fi i Stopio i gael rhagor o wybodaeth.
Fe hoffwn i dderbyn fy holl gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ydy hyn yn bosib?
Ydy, mae llawer o wasanaethau Helpa Fi i Stopio ar gael yn y Gymraeg. Er mwyn dod o hyd i dy wasanaeth Cymraeg lleol, cysyllta â thîm Helpa Fi i Stopio (sy’n croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg hefyd).
Dwi eisiau rhoi'r gorau i smygu, ond mae gen i gyflwr iechyd meddwl a dwi’n poeni am effaith rhoi'r gorau iddi ar fy iechyd meddwl.
Na, dyw hi ddim yn wir bod smygu yn dda i dy iechyd meddwl. Yn wir, mae rhoi’r gorau i smygu yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae’n lleihau lefelau iselder, gorbryder a straen, yn gwella hwyliau ac yn gallu gwella symptomau ADHD.
Dwi’n cymryd meddyginiaeth i drin fy nghyflwr iechyd meddwl - ydy hi'n wir y bydd angen dos uwch o feddyginiaeth arna’i os ydw i’n rhoi'r gorau i smygu?
Nac ydy. A dweud y gwir, bydd rhoi’r gorau i smygu yn caniatáu i bobl sy’n cymryd rhai meddyginiaethau gwrthseicotig leihau’r dos hyd at 25%. Mae hyn yn lleihau’r sgil-effeithiau a’r risgiau hirdymor sy’n gysylltiedig â chymryd y meddyginiaethau hyn.
Sut fydda i'n delio â'r ysfa am sigarét?
Bydd dy gynghorydd yn dy helpu i ddeall beth sy’n codi awydd arnat ti i smygu ac yn rhoi adnoddau ymarferol i ti reoli’r ysfa am sigarét. Hefyd, byddi di’n gallu defnyddio therapi disodli nicotin neu feddyginiaethau eraill i dy helpu i reoli’r broses.
Beth os nad ydw i'n barod i roi'r gorau i smygu yn llwyr?
Hyd yn oed os nad wyt ti’n barod i roi’r gorau i smygu yn llwyr, gall Helpa Fi i Stopio dy helpu i smygu llai o sigaréts neu dy baratoi i roi’r gorau iddi fesul tipyn. Cymryd y cam cyntaf ydy’r peth pwysicaf—bydd cymorth ar gael pan fyddi di’n barod.
Beth yw cyfradd llwyddiant Helpa Fi i Stopio?
Mae pobl sy’n defnyddio Helpa Fi i Stopio hyd at dair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu na phobl sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pennau eu hunain. Y rheswm am hyn yw am fod y gwasanaeth yn gallu darparu cyngor arbenigol, cymorth a thriniaethau llwyddiannus. Helpa Fi i Stopio yw’r dewis gorau os wyt ti eisiau rhoi’r gorau iddi am byth!
Sut alla i gael cymorth gan Helpa Fi i Stopio?
Cysyllta â Helpa Fi i Stopio trwy ddefnyddio’r ffurflen alw yn ôl ar y dudalen hon, neu ffonia ni ar 0800 085 2219. Bydd ein cynghorwyr arbenigol yn dy gysylltu â’r cymorth sy’n iawn i ti – naill ai sesiynau personol neu gymorth dros y ffôn.
Sut ydw i'n dewis y feddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu sy'n addas i fi?
Pan fyddi di’n cofrestru gyda gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, bydd arbenigwr rhoi’r gorau i smygu yn egluro’r meddyginiaethau sydd ar gael. Gyda’ch gilydd, byddwch chi’n dewis yr opsiwn sy’n cyd-fynd â dy ffordd o fyw, dy iechyd a lefel dy ddibyniaeth ar nicotin.
Cwestiynau Cyffredin am Fêps
Alla’i gael fêp ar bresgripsiwn yng Nghymru?
Ar hyn o bryd, dydy fêps ddim ar gael ar bresgripsiwn yng Nghymru oherwydd nad ydyn nhw wedi’u trwyddedu fel meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn eu defnyddio’n llwyddiannus fel rhan o’u taith tuag at roi’r gorau i smygu.
Alla’i gael cymorth gan Helpa Fi i Stopio os ydw i'n defnyddio fêps?
Yn bendant! Mae llawer o wasanaethau Helpa Fi i Stopio yn croesawu pobl sy’n defnyddio fêps fel rhan o’u taith tuag at roi’r gorau i smygu. Pan fyddi di’n cysylltu â thîm Helpa Fi i Stopio, byddan nhw’n gallu dy helpu i ddewis y gwasanaeth sy’n addas i dy anghenion.
Ydy hi'n ddiogel i bobl feichiog ddefnyddio fêps?
Yn hytrach na defnyddio fêps, y cyngor i smygwyr sy’n feichiog yw defnyddio meddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu trwyddedig. Mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn gallu dy helpu i gael cymorth arbenigol a manteisio ar opsiynau diogel sy’n addas i bobl feichiog.
A ddylai plant a phobl ifanc ddefnyddio fêps?
Mae fêps yn cynnwys nicotin fel arfer, sy’n gallu niweidio ymennydd person ifanc wrth iddo ddatblygu gan arwain at ddibyniaeth. Dydy defnyddio fêps ddim o fudd i blant a phobl ifanc o gwbl, ac er eu bod yn llai niweidiol na smygu, maen nhw’n dal i fod yn beryglus.
Os yw person ifanc yn fepio ac yn smygu a’i fod eisiau help i roi’r gorau iddi, mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio ar gael i ddarparu cymorth arbenigol.
Gallwn hefyd helpu pobl ifanc sy’n fepio, ond ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu darparu Therapi Disodli Nicotin (NRT) iddyn nhw, fel patsh neu gwm.
Pa gymorth sydd ar gael i helpu i roi'r gorau i fepio?
Os wyt ti eisiau rhoi’r gorau i fepio, mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn gallu cynnig cymorth a gwybodaeth dros y ffôn i dy helpu trwy’r broses o roi’r gorau iddi, gan gynnwys cyngor ar dorri dy ddibyniaeth ar nicotin.
Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu cynnig Therapi Disodli Nicotin (NRT) i dy helpu i roi’r gorau i fepio, ond mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o oedolion yn gallu rhoi’r gorau i fepio trwy broses lleihau graddol. Mae ein harbenigwyr ar gael i dy arwain trwy’r broses.
Dydw i ddim eisiau rhoi'r gorau i smygu, neu mae'n anodd i fi roi'r gorau iddi. Beth yw fy opsiynau?
Os nad wyt ti’n barod i roi’r gorau i smygu yn llwyr, gall newid i fêps leihau’r risgiau i dy iechyd yn sylweddol o’i gymharu â smygu tybaco. Fodd bynnag, mae menywod beichiog yn cael eu cynghori i ddefnyddio cynhyrchion disodli nicotin trwyddedig yn hytrach na fêps.
Cwestiynau Cyffredin am Smygu a Beichiogrwydd
Pam mae'n bwysig rhoi'r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd?
Mae smygu yn ystod beichiogrwydd yn lleihau faint o ocsigen a maetholion sy’n mynd i gorff dy fabi, sy’n gallu effeithio ar ei dwf a’i ddatblygiad. Mae’n cynyddu’r risg o gymhlethdodau fel:
- Genedigaeth gynamserol.
- Pwysau geni isel.
- Camesgoriad neu farw-enedigaeth.
- Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS).
Bydd rhoi’r gorau i smygu yn ystod unrhyw gam o dy feichiogrwydd yn gwella’r canlyniad i ti a dy fabi. Gorau po gyntaf y byddi di’n stopio — ond dyw hi byth yn rhy hwyr i wneud newid cadarnhaol, ac mae Helpa Fi i Stopio ar gael i dy helpu bob cam o’r ffordd!
Fydda i'n niweidio fy mabi os dwi'n rhoi'r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd?
Na fyddi. Rhoi’r gorau i smygu yw’r PETH GORAU y galli di ei wneud ar gyfer iechyd dy fabi.
Efallai y byddi di’n profi symptomau dros dro dod oddi ar nicotin, fel anniddigrwydd neu ysfa am sigarét, ond fydd y rhain ddim yn dy niweidio di na dy fabi. Bydd rhoi’r gorau i smygu yn lleihau cysylltiad dy fabi â chemegau niweidiol o fwg tybaco ac yn golygu y gall dy fabi ddatblygu mewn amgylchedd iachach.
Pa gymorth sydd ar gael i fy helpu i roi'r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd?
Does dim rhaid i ti roi’r gorau iddi ar dy ben dy hun—mae cymorth arbenigol ar gael!
Mae Helpa Fi i Stopio yn darparu cymorth rhad ac am ddim, heb unrhyw un yn dy farnu, yn benodol ar gyfer smygwyr sy’n feichiog. Hefyd, bydd Therapi Disodli Nicotin trwyddedig (NRT), fel patsh neu gwm, ar gael i ti. Mae’n llawer mwy diogel defnyddio’r therapi hwn yn ystod beichiogrwydd na smygu. Mae gennym gynghorwyr arbenigol sy’n deall dy sefyllfa, a byddan nhw’n gallu dy helpu i greu cynllun rhoi’r gorau i smygu personol a rhoi cymorth cyson i ti drwy gydol dy daith.
Ydy hi’n ddiogel defnyddio Therapi Disodli Nicotin (NRT) yn ystod beichiogrwydd?
Ydy, mae cynhyrchion NRT trwyddedig fel patshys, gwm, neu losennau yn cael eu hystyried yn llawer mwy diogel na smygu yn ystod beichiogrwydd. Mae’r cynhyrchion hyn yn rheoli’r dosau o nicotin heb y cemegau niweidiol sydd mewn mwg tybaco, gan dy helpu i reoli’r ysfa am sigarét a symptomau dod oddi ar nicotin. Bydd dy gynghorydd Helpa Fi i Stopio neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arbenigol yn dy helpu i ddewis yr opsiwn gorau i ti.
Dwi’n ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd. Beth alla’ i ei wneud?
Mae rhoi’r gorau i smygu yn gallu bod yn heriol, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd, ond mae cymorth ar gael. Byddai’n werth i ti ystyried y canlynol:
- Gofyn am gymorth arbenigol: Cysyllta â Helpa Fi i Stopio i gael cymorth personol yn rhad ac am ddim.
- Defnyddio NRT: Gall cynhyrchion diogel ac effeithiol helpu i leihau’r ysfa am sigarét.
- Deall beth sy’n codi awydd arnat ti i smygu: Gweithia gyda chynghorydd rhoi’r gorau i smygu arbenigol er mwyn deall beth sy’n gwneud i ti fod eisiau smygu a datblygu strategaethau i dy helpu i roi’r gorau iddi.
Cofia, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun, a bydd pob cam bach y byddi di’n ei gymryd yn gam cadarnhaol i ti a dy fabi.
Beth sy'n digwydd os dwi'n parhau i smygu yn ystod beichiogrwydd?
Os wyt ti’n parhau i smygu, bydd dy fabi yn dod i gysylltiad â chemegau niweidiol sy’n gallu cyfyngu ar lif ocsigen ac effeithio ar ei ddatblygiad. Gall hyn arwain at gynyddu’r risgiau canlynol:
- Cymhlethdodau wrth esgor a geni dy fabi.
- Problemau iechyd hirdymor ar gyfer dy fabi, gan gynnwys problemau anadlu a risg uwch o heintiau.
Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau iddi, cofia ofyn am help—mae cymorth Helpa Fi i Stopio ar gael bob amser i dy helpu i lwyddo.
Beth os ydw i eisoes wedi rhoi'r gorau i smygu ond fy mod i’n ei chael hi'n anodd aros yn ddi-fwg?
Mae hynny’n normal ac mae’n iawn gofyn am help! Gall beichiogrwydd achosi straen a heriau newydd, felly gall fod yn demtasiwn i ti ddechrau smygu eto. Cysyllta â Helpa Fi i Stopio i gael cymorth i aros yn ddi-fwg. Gallwn dy helpu i reoli straen, ysfa am sigarét a heriau eraill er mwyn dy gadw di a dy fabi ar y trywydd iawn tuag at iechyd gwell.
Beth am smygu ar ôl geni fy mabi?
Mae rhoi’r gorau i smygu ar ôl geni dy fabi yr un mor bwysig. Os wyt ti’n parhau i smygu ar ôl geni dy fabi, rwyt ti’n cynyddu’r risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), salwch anadlol, a heintiau yn y glust. Mae aros yn ddi-fwg yn darparu amgylchedd iachach i dy blentyn ac yn gosod esiampl gadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Beth am smygu a bwydo ar y fron?
Bwydo ar y fron yw un o’r pethau gorau y galli di ei wneud i roi cychwyn da i dy fabi. Mae rhoi’r gorau i smygu yn sicrhau nad yw llaeth dy fronnau yn cynnwys nicotin a chemegau niweidiol, ac mae’n lleihau cysylltiad dy fabi â mwg tybaco. Mae hyn yn helpu i ddiogelu iechyd dy fabi ac yn lleihau’r risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS).
Beth os yw fy mhartner neu aelod o'r teulu yn smygu?
Mae mwg ail-law yn niweidiol i dy fabi, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl ei eni. Os yw dy bartner neu aelod o dy deulu yn smygu, dylet ofyn iddyn nhw roi’r gorau iddi neu beidio â smygu o dy gwmpas di a dy fabi. Mae creu cartref di-fwg yn gam cyntaf gwych!
Mae cymorth ar gael iddyn nhw hefyd trwy Helpa Fi i Stopio, sy’n gallu helpu i greu amgylchedd iachach, di-fwg i ti a dy fabi.
Cwestiynau Cyffredin am Smygu ac Ysbytai
Alla i smygu ar safleoedd ysbytai yng Nghymru?
Na, ni chaniateir smygu yn unrhyw le ar dir ysbytai, gan gynnwys meysydd parcio, mannau awyr agored, a phob man dan do. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob cynnyrch smygu, gan gynnwys sigaréts, cynhyrchion cynhesu tybaco ac, mewn rhai ysbytai, fêps.
Pam mae safleoedd ysbytai yn ddi-fwg?
Mae ysbytai yng Nghymru wedi ymrwymo i ddarparu’r amgylchedd gorau ar gyfer gwella ac adfer. Mae smygu ar dir ysbytai yn golygu bod cleifion, staff ac ymwelwyr yn dod i gysylltiad â mwg ail-law niweidiol, a gall arafu adferiad pobl sy’n smygu. Mae ysbyty di-fwg yn sicrhau aer glân ac yn cefnogi dyfodol iachach i bawb.
Pa gymorth sydd ar gael i fy helpu i reoli ysfa am sigarét yn yr ysbyty?
Mae staff ysbytai, law yn llaw â’n cynghorwyr Helpa Fi i Stopio hyfforddedig, yn gallu cynnig amrywiaeth o gymorth i dy helpu i reoli ysfa am sigarét yn ystod dy arhosiad. Mae hyn yn cynnwys Therapi Disodli Nicotin (NRT) fel patshys, gwm, neu losennau, sy’n gallu lleihau symptomau dod oddi ar nicotin. Gall ein cynghorwyr Helpa Fi i Stopio cyfeillgar ddarparu cymorth ymddygiadol i ti hefyd.
Dydw i ddim yn barod i roi'r gorau i smygu ond mae angen i fi ymweld ag ysbyty. Beth yw fy opsiynau?
Os nad wyt ti’n barod i roi’r gorau i smygu yn llwyr, rydyn ni’n dy annog i ystyried Therapi Disodli Nicotin (NRT) dros dro i reoli’r ysfa am sigarét yn ystod dy arhosiad. Gall NRT dy helpu i aros yn gyfforddus a gwella neu gyflymu dy adferiad. Os hoffet ti drafod dy opsiynau, mae Helpa Fi i Stopio ar gael i helpu.
Sut mae rhoi'r gorau i smygu yn helpu fy adferiad?
Gall rhoi’r gorau i smygu, hyd yn oed am gyfnod byr, helpu dy gorff i wella yn sylweddol. Mae smygu yn lleihau’r llif ocsigen ac yn niweidio’r system imiwnedd, sy’n gallu arafu adferiad o salwch, anaf neu lawdriniaeth. Bydd mynd yn ddi-fwg yn ystod dy arhosiad yn yr ysbyty yn rhoi’r cyfle gorau i dy gorff wella’n gyflymach ac yn fwy effeithiol.
Sut alla i gael cymorth i aros yn ddi-fwg yn ystod fy arhosiad yn yr ysbyty?
Siarada â dy ddarparwr gofal iechyd neu aelod o staff, a fydd yn gallu dy gysylltu â chynghorwyr Helpa Fi i Stopio sydd ar gael yn yr ysbyty. Byddan nhw’n dy helpu i ystyried opsiynau fel therapi disodli nicotin, ac yn cynnig cymorth ymarferol i dy gadw’n gyfforddus ac yn ddi-fwg.
Beth sy'n digwydd os ydw i eisiau parhau â'm taith i roi'r gorau i smygu ar ôl gadael yr ysbyty?
Galli di barhau i ddefnyddio gwasanaethau cymorth Helpa Fi i Stopio ar ôl gadael yr ysbyty. Gallwn ddarparu arweiniad arbenigol a mynediad rhad ac am ddim at feddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu trwyddedig er mwyn dy helpu i aros yn ddi-fwg yn yr hirdymor.
Cwestiynau Cyffredin ar Gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
Pam ddylwn i atgyfeirio fy nghleifion at wasanaethau Helpa Fi i Stopio?
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth personol, seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl yn rhoi’r gorau i smygu. Mae cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn hyd at dair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu na phobl sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pennau eu hunain. Os wyt ti’n atgyfeirio cleifion, byddan nhw’n derbyn cymorth gan gynghorwyr arbenigol, meddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu trwyddedig, ac anogaeth barhaus sy’n addas i’w hanghenion.
Pa fathau o gleifion ddylwn i eu hatgyfeirio at wasanaethau Helpa Fi i Stopio?
Bydd unrhyw glaf sy’n smygu yn elwa ar atgyfeiriad at Helpa Fi i Stopio! Mae rhai grwpiau sy’n addas i’w hatgyfeirio yn cynnwys:
- Smygwyr sy’n barod i roi’r gorau iddi: Unigolion sy’n awyddus i roi’r gorau i smygu ac sy’n chwilio am gymorth.
- Smygwyr sy’n pendroni: Cleifion sydd ddim yn barod eto ond a allai gael budd o ddysgu am fanteision iechyd ac ariannol rhoi’r gorau i smygu.
- Smygwyr beichiog: Menywod sy’n smygu yn ystod beichiogrwydd, er mwyn helpu i wella canlyniadau i’r fam ac i’r babi.
- Pobl ifanc 12 oed a throsodd: Pobl ifanc sy’n smygu ac sydd eisiau rhoi’r gorau iddi, yn ddelfrydol gyda chydsyniad eu rhieni.
Sut ydw i'n gwneud atgyfeiriad?
Fel arfer, mae modd gwneud atgyfeiriad trwy’r dulliau canlynol:
- Ffurflen atgyfeirio ar-lein: Defnyddia’r Ffurflen Atgyfeirio Proffesiynol sydd ar gael ar wefan Helpa Fi i Stopio
- Cofnodion iechyd electronig: Mae llawer o systemau Byrddau Iechyd wedi integreiddio opsiynau atgyfeirio yn uniongyrchol â’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio lleol.
- Atgyfeiriadau ffôn: Cysyllta â thîm Helpa Fi i Stopio yn uniongyrchol er mwyn atgyfeirio dy glaf.
Dylet ddarparu manylion cyswllt y claf (gyda’i gydsyniad), a bydd y tîm yn trefnu cymorth.
Pa wasanaethau fydd fy nghleifion yn eu derbyn?
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig:
- Cymorth un i un: Sesiynau wedi’u teilwra gyda chynghorwyr rhoi’r gorau i smygu hyfforddedig.
- Rhaglenni grŵp: Sesiynau cymorth grŵp seiliedig ar dystiolaeth sy’n datblygu cymhelliant ac yn rhannu strategaethau.
- Meddyginiaethau trwyddedig: Mynediad at Therapi Disodli Nicotin (NRT) a meddyginiaethau stopio smygu presgripsiwn.
- Cymorth hyblyg: Mae’r opsiynau’n cynnwys sesiynau sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol hygyrch, gofal eilaidd a fferyllfeydd cymunedol, ynghyd â chymorth ffôn sydd ar gael yn genedlaethol, yn unol ag anghenion unigol.
Beth ddylwn i ei ddweud wrth fy nghleifion am Helpa Fi i Stopio?
Byddai’n werth i ti roi sicrwydd iddyn nhw am y canlynol:
- Mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim: does dim angen i gleifion dalu am gymorth neu feddyginiaethau.
- Mae’n cefnogi cleifion heb eu beirniadu: mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i’w hannog a’u grymuso.
- Mae’n effeithiol: mae defnyddio Helpa Fi i Stopio yn gwella’r siawns o roi’r gorau i smygu yn sylweddol.
- Mae wedi’i deilwra: bydd cleifion yn derbyn cyngor personol a chynllun rhoi’r gorau iddi sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw.
Beth yw effaith rhoi'r gorau i smygu ar ganlyniadau cleifion?
Gall rhoi’r gorau i smygu wella iechyd claf bron yn syth a lleihau’r risg o nifer o gyflyrau sy’n gysylltiedig â smygu. Mae’r manteision yn cynnwys:
- Gwella’n gyflymach o lawdriniaeth a salwch.
- Gwell rheolaeth o gyflyrau cronig, fel COPD, asthma a diabetes.
- Lleihau’r risg o drawiad ar y galon, strôc, a chanser.
Mae annog claf i roi’r gorau i smygu yn un o’r ymyriadau mwyaf effeithiol y galli di ei wneud ar gyfer ei iechyd hirdymor.
Sut alla i helpu cleifion sydd ddim yn barod i roi'r gorau iddi?
Hyd yn oed os nad yw cleifion yn barod i roi’r gorau iddi yn gyfan gwbl, galli di wneud y canlynol:
- Eu hannog i smygu llai ac ystyried opsiynau disodli nicotin dros dro neu newid yn gyfan gwbl i fêps.
- Rhoi gwybod iddyn nhw am y cymorth arbenigol rhad am ddim sydd ar gael pan fyddan nhw’n teimlo’n barod.
- Pwysleisio bod pob ymgais yn cyfrif ac y bydd y gwasanaeth ar gael pryd bynnag maen nhw’n dewis rhoi cynnig arall arni.
Sut ydw i'n dilyn atgyfeiriad?
Ar ôl yr atgyfeiriad, bydd Helpa Fi i Stopio yn cysylltu â dy glaf yn uniongyrchol. Galli di gadw llygad ar sut mae’n mynd mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol trwy ofyn i’r claf am ei gynnydd ac atgyfnerthu manteision rhoi’r gorau i smygu. Os na wnaeth y claf ddefnyddio’r gwasanaeth, galli di ei annog i ailystyried yn y dyfodol.
Ydy Helpa Fi i Stopio yn gallu cynorthwyo pobl sy’n fepio?
Mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn gallu cynnig cymorth a gwybodaeth dros y ffôn i helpu dy gleifion trwy’r broses o roi’r gorau i smygu, gan gynnwys cyngor ar dorri’n rhydd o’r ddibyniaeth ar nicotin.
Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu cynnig therapi disodli nicotin i helpu ymgais dy glaf i roi’r gorau i fepio, ond mae tystiolaeth yn dangos y gall llawer o oedolion roi’r gorau i fepio trwy broses lleihau fesul tipyn. Mae ein harbenigwyr ar gael i arwain dy gleifion trwy’r broses.
Pa hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol?
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol gael eu hyfforddi i ddarparu Cyngor Cryno Iawn ar smygu. Mae’r cyngor hwn wedi’i gynllunio i gael ei gyflwyno’n hyblyg mewn llai na 30 eiliad, ac mae’n ffordd gyflym ac effeithiol o annog cleifion i ystyried rhoi’r gorau i smygu.
Trwy gael eu hyfforddi i roi Cyngor Cryno Iawn ar smygu, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn datblygu’r hyder a’r sgiliau i drafod smygu gyda chleifion mewn ffordd gefnogol heb eu beirniadu. Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall ymyriadau cryno gynyddu’r tebygolrwydd y bydd smygwyr yn rhoi’r gorau iddi.