Cydnabod Atgyfeiriad

Diolch am gyflwyno’r ffurflen atgyfeirio Helpa Fi i Stopio ar-lein ac am gefnogi’ch claf i ddechrau ar ei daith ddi-fwg. Rydym wedi derbyn y manylion, a bydd aelod o dîm ein canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn cysylltu â’r unigolyn o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod ei opsiynau ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu.

Mae atgyfeirio cleifion at Helpa Fi i Stopio yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt roi’r gorau iddi am byth. Diolch am helpu eich claf i weithio tuag at ei nod o fyw yn ddi-fwg ac am eich cyfraniad at adeiladu Cymru ddi-fwg.

Os hoffech gysylltu â thîm Helpa Fi i Stopio yn uniongyrchol ynghylch yr atgyfeiriad hwn, oriau agor y ganolfan gyswllt yw:

Dydd Llun: 9.00 – 20.00
Dydd Mawrth: 9.00 – 18.00
Dydd Mercher: 9.00 – 20.00
Dydd Iau: 9.00 – 18.00
Dydd Gwener: 9.00 – 17.00
Dydd Sadwrn: 9.00 – 17.00
Dydd Sul: Ar gau

Manylion cyswllt Helpa Fi i Stopio:
Rhif ffôn: 0800 085 2219
E-bost: helpafiistopio@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.