Cysylltu â ni - Ymholiadau cyffredinol
Helpa Fi i Stopio
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF20 4BZ
Rhif ffôn: 0800 085 2219
E-bost: helpafiistopio@wales.nhs.uk
Neges testun: HMQ i 80818
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.
Oes gennych bryder am y gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu rydych wedi’i dderbyn?
Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn, yn y lle cyntaf dylech drafod hyn gyda’r darparwr gwasanaeth. Fel arall gallwch anfon eich adborth neu eich pryder drwy e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk
A oes gennych bryder am dîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio?
Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn gan dîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio cysylltwch â’r Rheolwr Gweithredol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Awdurdod Cyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Caiff y wefan hon ei diweddaru’n barhaus fel prif ffynhonnell wybodaeth, ond os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni ar y rhifau uchod, neu eich swyddfa leol, a fydd yn eich helpu a’ch cynghori i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani.
Gellir cael manylion llawn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yma.
Ymholiadau gan y cyfryngau
Dylai newyddiadurwyr sydd am gysylltu â Helpa Fi i Stopio gysylltu â thîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 029 2034 8755 (24 awr).Gellir cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau nad ydynt yn rhai brys at y tîm Helpa Fi i Stopio drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.