Gofynnwch I ni eich ffonio'n Ôl

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhedeg y wefan hon ar ran system rhoi’r gorau i ysmygu’r GIG ar gyfer Cymru Helpa Fi i Stopio. I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru ewch yma. Rydyn ni am weld cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • gwe-lywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Defnyddio’r map Google ar y wefan gyda rhaglen darllen sgrin a llwybrau byr bysellfwrdd, gallwch ddysgu rhagor gyda Google Support yn uniongyrchol yma.

 

  • Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.
  • Caiff hygyrchedd ar y wefan hon ei harwain gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Caiff WCAG eu derbyn yn eang fel y safon genedlaethol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
  • Er ein bod yn anelu at sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob defnyddiwr ac at gyflawni lefel gydymffurfio WCAG ‘AA’, rydym yn gweithio’n barhaus â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel gydymffurfio ‘A’ fel isafswm.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
  • Ym mis Hydref 2019, gwnaethom gynnal archwiliad i asesu a oedd y wefan yn cydymffurfio â’r safonau hygyrchedd a chadarnhaodd canlyniadau’r archwiliad fod y wefan hon yn cydymffurfio â hwy.
  • Byddwn yn parhau i adolygu a monitro’r wefan i sicrhau ei bod yn parhau i gydymffurfio.

 

Beth i’w wneud os na allwch ddefnyddio rhannau o’r wefan hon

Os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel print bras neu recordiad sain er enghraifft, e-bostiwch: helpafiistopio@wales.nhs.uk

Caiff cyfrifon e-bost Helpa Fi i Stopio eu hagor bob dydd ac rydyn ni’n ceisio ymateb i ymholiadau cyn pen 24 awr fodd bynnag ar adegau prysur gall gymryd rhwng 3-5 diwrnod gwaith i ymateb. Dyma oriau agor Helpa Fi i Stopio:

Llun – Gwener : 09:00 – 16:00

Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc: Ar gau

 

Trefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn fyddar, os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, gallwn gyfathrebu drwy e-bost: helpafiistopio@wales.nhs.uk

Gall llawer o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu Helpa Fi i Stopio drefnu gwasanaethau dehonglwr megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae’r adnoddau ar gael mewn Print Bras neu mewn fformat Sain. Mae croeso ichi gysylltu â ni i drafod eich gofynion a’ch anghenion hygyrchedd.

Cewch wybod sut i gysylltu â ni drwy’r dolen yma.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Helpa Fi i Stopio wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae’r wefan hon yn gwbl gydnaws â’r Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau Fersiwn 2.1 safon AA.

 

Sut wnaethon ni brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar [Awst 2019]. Cynhaliwyd y prawf gan S3 Advertising ar ran Helpa Fi i Stopio fel eu hasiant ar gyfer y cyfryngau.

Fe wnaethom brofi platfform ein prif wefan sydd ar gael yn:

www.helpafiistopio.cymru a www.helpmequit.wales

Cymerwyd y pwyntiau y gwnaethom brofi yn eu herbyn o’r safon dechnegol Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.0 (WCAG), a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C) Canllawiau. Fe wnaethom brofi dan y safon hon er mwyn sicrhau bod y wefan yn bodloni’r cyfrifoldebau dan Deddf Cydraddoldeb 2010 a Chyfarwydddeb Hygyrchedd Gwefannau’r UE.

Mae Helpa Fi i Stopio wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a defnyddioldeb y wefan a phrofi ag ystod o dechnolegau, porwyr, systemau gweithredu a mathau o setiau llaw symudol. Rydym wedi canolbwyntio ar brofi gyda’r porwyr diweddaraf, gan fod y rhain yn darparu’r cyfleoedd mwyaf ar gyfer defnyddio technolegau cynorthwyol mwy newydd, er mwyn darparu’r cymorth hygyrchedd gorau i’r defnyddiwr.

Fe wnaethom brofi’r wefan gan ddefnyddio’r porwyr canlynol:

  • Internet Explorer 11+
  • Edge
  • Firefox
  • Chrome
  • Apple iOS – Safari ar iPhone ac iPad
  • Android – porwr Chrome

Yn ystod y profion, fe wnaethom hefyd wella hygyrchedd y canlynol:

Delweddau

  • Addaswyd y delweddau i gynnwys capsiynau a/neu ‘tagiau amgen’ ar gyfer defnyddwyr â rhaglenni darllen sgrin.
  • Ni chaiff ‘tagiau amgen’ ond eu defnyddio os yw’r ddelwedd yn rhoi gwybodaeth hanfodol am ystyr y dudalen – er enghraifft; diagram am sut i wneud rhywbeth.

Cymarebau Cyferbynnedd a Thestun

  • Cafodd yr holl destun ei ddiwygio i fod yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy drwy’r wefan; gan roi ystyriaeth i’r cymarebau cefndir.
  • Mae’r holl gymarebau testun i gefndir yn bodloni neu’n rhagori ar y gymhareb goleuedd o 3:1 ar gyfer testun mwy, a 4.5:1 ar gyfer testun llai.

Gwe-lywio â’r bysellfwrdd

  • Addaswyd y wefan er mwyn gallu llywio drwyddi â’r bysellfwrdd yn unig drwy dabio drwy’r adrannau.

Fideo ar-lein

  • Lle bo hynny’n bosibl, cafodd fideos yn y wefan eu huwchlwytho ag isdeitlau i sicrhau y gellir gwylio’r fideo gyda sain a hebddi.

 

Adrodd am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Cafodd gwefan Helpa Fi i Stopio ei dylunio a’i datblygu gan roi ystyriaeth i anghenion hygyrchedd pobl ag anableddau. Rydyn ni hefyd wedi rhoi ystyriaeth i arweiniad rhyngwladol a’r arferion gorau ar hygyrchedd gwefannau.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i’r wefan a’i defnyddio ar ddyfeisiau amryfal. Mae’n cynnwys pobl sydd wedi colli eu golwg, sydd â nam ar y clyw, ar eu symudedd ac sydd â nam gwybyddol.

Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws unrhyw broblemau na chânt eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd neu os oes gennych argymhelliad, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio helpafiistopio@wales.nhs.uk  gan ddefnyddio’r pennawd pwnc ‘Hygyrchedd y Wefan’

Paratowyd y datganiad hwn ar [Hydref 2019].  Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar [Hydref 2020].