Gall Helpa Fi i Stopio eich cefnogi i roi’r gorau i ysmygu o hyd, er y bydd newidiadau wrth i Gymru ymateb i Coronafeirws. Mae hyn yn golygu y cynhelir nifer o sesiynau rhoi’r gorau i ysmygu gan arbenigwyr rhoi’r gorau i ysmygu dros y ffôn. Mae’r gwasanaethau yn parhau i fod am ddim a bydd y tîm yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth effeithiol y GIG i roi’r gorau i ysmygu.
Mae timau rhoi’r gorau i ysmygu ym mhob rhan o Gymru wedi ymrwymo i amddiffyn iechyd a llesiant pob un o’u cleientiaid/cleifion a staff.
Bydd aelod o’n tîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn ceisio cysylltu â chi/eich cleient/claf o fewn y ddau ddiwrnod gwaith nesaf i drafod ei ddewisiadau/ei dewisiadau ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu.
Os ydych chi’n dymuno cysylltu’n uniongyrchol â thîm Helpa Fi i Stopio am y cyfeiriad hwn, dyma oriau agor y ganolfan gyswllt:
Llun: 9.00 – 20.00
Mawrth: 9.00 – 18.00
Mercher: 9.00 – 20.00
Iau: 9.00 – 18.00
Gwener: 9.00 – 17.00
Sadwrn: 9.00 – 17.00
Sul: ar gau
Manylion cyswllt Helpa Fi i Stopio
Ffôn: 0800 085 2219
E-bost: helpafiistopio@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.