Dwi ddim yn siŵr a ydw i'n barod i roi'r gorau i smygu

Y penderfyniad pwysicaf
Er ein bod ni yma i dy helpu i roi’r gorau iddi, rydyn ni’n gwybod bod y penderfyniad i roi’r gorau i smygu yn anodd. Os wyt ti wedi bod yn smygu ers ychydig flynyddoedd neu fwy, mae’n bosibl bod y sigarét gyntaf yn y bore, neu’r sigarét yna ar ôl gwaith, yn teimlo fel rhan o dy drefn arferol.
Felly, er nad yw penderfynu rhoi’r gorau iddi yn hawdd, dyma’r peth gorau y galli di ei wneud er lles dy iechyd. Trwy roi’r gorau iddi, rwyt ti’n cynyddu dy siawns o fyw yn hirach a mwynhau iechyd gwell yn ddiweddarach yn dy fywyd.
Meddylia am fanteision dyfodol di-fwg
Yn anffodus, smygu yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru o hyd. Rwyt ti eisoes wedi clywed am beryglon smygu gan dy feddyg teulu neu gan dy fferyllydd, ond y manteision gei di’n syth wrth roi’r gorau i smygu yw’r hyn rydyn ni am i ti ei ystyried.
Beth yw manteision rhoi'r gorau iddi?
Trwy roi’r gorau iddi, byddi di’n arbed tua £5,000 bob blwyddyn os wyt ti’n smygu 20 sigarét y dydd ar hyn o bryd. Efallai dy fod ti’n smygu llai na hyn, ond faint bynnag rwyt ti’n smygu, fe wnei di arbed swm sylweddol o arian. Fe alli di ddefnyddio’r arian yma i dy helpu i brynu’r pethau pwysig rwyt ti wir eisiau gwario dy arian arnyn nhw. Defnyddia ein cyfrifiannell arbedion i weld faint o arian y galli di ei arbed.
Ar ôl 3 diwrnod o roi'r gorau iddi, byddi di’n dechrau teimlo bod gen ti fwy o egni
Fe wnei di ddechrau teimlo’n iachach hefyd. Er na fydd dy gorff di’n gwella’n gyfan gwbl dros nos, ar ôl llai nag wythnos o roi’r gorau iddi, bydd dy lefelau egni yn cael hwb a byddi di’n gallu anadlu’n haws.
Ond nid dyma'r tro cyntaf i fi
Os wyt ti wedi ceisio rhoi’r gorau iddi yn y gorffennol, mae’n bosib y byddi di’n amau a fydd pethau’n wahanol y tro hwn. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn rhoi sawl cynnig arni fel arfer cyn rhoi’r gorau i smygu am byth.
Rydyn ni’n deall nad yw rhoi’r gorau iddi yn hawdd, ond hyd yn oed os wyt ti wedi defnyddio Helpa Fi i Stopio o’r blaen, rydyn ni yma i dy helpu eto. Bydd pob ymgais i roi’r gorau iddi yn dy helpu i fod yn ddi-fwg am byth.
Fydd neb yn dy farnu di am ddod atom ni eto.
Efallai na wnest ti lwyddo'r tro cyntaf
Mae nicotin yn gyffur caethiwus, felly does dim syndod bod pobl yn ei chael hi’n anodd byw hebddo. Efallai y bydd angen i bobl roi sawl cynnig arni cyn llwyddo. Dyna pam rydyn ni yma i helpu.
Felly, waeth beth yw cyflwr dy iechyd, waeth faint o amser rwyt ti wedi bod yn smygu, neu sawl gwaith rwyt ti wedi ceisio rhoi’r gorau iddi, dewis Helpa Fi i Stopio yw’r penderfyniad gorau i ti a dy deulu. Mae ein tîm yn barod i helpu, a gallwn dy roi ar ben ffordd mewn ychydig ddyddiau.
Does gen ti ddim byd i’w golli trwy roi cynnig arni. Dyw hi byth yn rhy hwyr i wneud newid cadarnhaol.
