Gwasanaethau yn eich ardal chi
Gall y map Google isod ddangos y gwasanaethau Helpa Fi i Stopio sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae’r amseroedd aros yn fyr ond ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau bydd angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Am restr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu lleol a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Helpa Fi i Stopio trwy ddefnyddio’r manylion isod.
Pa fath o gymorth sydd ar gael?
Mae Helpa Fi i Stopio gyda chi bob cam o’r ffordd ar eich taith ddi-fwg. Mae cymorth ar gael mewn:
-
Cyfarfodydd gyda smygwyr eraill
Y ffordd orau i roi’r gorau i smygu
-
Apwyntiadau un i un
Gallai’r rhain fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn*
-
Lleoliadau cymunedol, Ysbytai, a Fferyllfeydd
Gadewch i ni ddod o hyd i'ch gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu lleol
*Mae cymorth dros y ffôn ar gael ledled Cymru. Gofynnwch i aelod o dîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio am ragor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.