
Gwybodaeth am Helpa Fi i Stopio
Helpa Fi i Stopio yw brand cenedlaethol rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru, ac mae’n darparu cymorth rhad ac am ddim sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn helpu unigolion i roi’r gorau i smygu am byth. Ers lansio Helpa Fi i Stopio yn 2017, mae’r rhaglen wedi grymuso miloedd o bobl i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a chroesawu dyfodol di-fwg.
Mae ein cenhadaeth yn syml: sicrhau bod cynifer o smygwyr â phosib yng Nghymru yn cael y cyfle gorau i roi’r gorau iddi.
Hefyd, rydyn ni’n ceisio gwneud cyfraniad ystyrlon tuag at weledigaeth Llywodraeth Cymru i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030.
Pwy ydyn ni
Mae Helpa Fi i Stopio yn cysylltu holl wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru, sy’n golygu ei bod hi’n haws derbyn cymorth. Mae ein gwasanaethau yn cael eu darparu ledled Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a phob un o’r saith bwrdd iechyd lleol:
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
-
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae ein gwasanaethau yn cael eu darparu mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys lleoliadau cymunedol, ysbytai, fferyllfeydd cymunedol, ac o bell dros y ffôn.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
Ein Hymrwymiad
Mae Helpa Fi i Stopio yn cyd-fynd ag Egwyddorion Craidd GIG Cymru, sy'n arwain ein holl waith:
Rhoi pobl yn gyntaf
Ein defnyddwyr gwasanaethau sydd wrth galon ein gwaith bob amser, a byddwn yn darparu cymorth tosturiol, wedi’i deilwra sy’n gwbl anfeirniadol.
Gwelliant parhaus
Rydyn ni’n cynnwys gwelliant ym mhopeth a wnawn, a byddwn yn ymdrechu i gael gwared ar bob niwed, amrywiad, a gwastraff gan wella canlyniadau.
Canolbwyntio ar les ac atal
Ein nod yw helpu unigolion a theuluoedd i fyw bywydau iachach, di-fwg trwy atal niwed a hybu iechyd da.
Ymrwymiad i ddysgu
Rydyn ni’n myfyrio ar ein profiadau er mwyn gwella ein gwasanaethau yn barhaus, gan roi blaenoriaeth i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn cynorthwyo unigolion ar eu taith i roi’r gorau i smygu.
Gweithio gyda'n gilydd
Rydyn ni’n credu mewn cydweithio, meithrin partneriaethau a gwaith tîm cadarn er mwyn darparu cymorth di-dor.
Gwerthfawrogi holl staff y GIG
Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad hanfodol holl staff y GIG tuag at wella canlyniadau iechyd a chefnogi unigolion ar eu taith i roi’r gorau i smygu.

Dy Helpu i Roi'r Gorau i Smygu
Mae Helpa Fi i Stopio yma i dy helpu i ddatblygu dy sgiliau, dy hyder a dy gymhelliant fel y galli di roi’r gorau i smygu a chymryd rheolaeth dros dy iechyd. Drwy ddarparu adnoddau personol, arweiniad arbenigol gan y GIG, a strategaethau ymarferol, byddwn yn dy helpu i dorri’n rhydd o ddibyniaeth ar dybaco gan greu dyfodol mwy disglair ac iach i ti a dy anwyliaid.
Gad i ni dy helpu i wneud y newid a theimlo’r gwahaniaeth —gan gofio mai rhoi’r gorau i smygu yw un o’r penderfyniadau gorau y galli di ei wneud er budd dy iechyd a dy les.
