Mae lefelau nicotin a charbon monocsid yn y gwaed yn haneru ac mae eich lefelau ocsigen yn dychwelyd i normal.
Caiff carbon monocsid ei ddileu o’ch corff ac mae eich ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws a gweddillion eraill.
Nid oes nicotin ar ôl yn eich corff ac mae eich gallu i flasu ac arogli wedi gwella’n sylweddol.
Rydych yn gallu anadlu’n haws. Mae’r tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio a dylai eich egni ddechrau cynyddu.
Mae eich cylchrediad yn gwella. Mae gwaed sy’n llawn ocsigen yn llifo o gwmpas eich corff ac yn helpu i wella eich iechyd.
Mae peswch a gwichian ar y frest yn gwella a bydd eich anadlu’n gwella hyd at 10%.
Bydd eich risg o gael trawiad ar y galon wedi haneru o gymharu â’r risg i smygwr.
Mae eich risg o ganser yr ysgyfaint yn haneru o gymharu â’r risg i smygwr.
Mae eich risg o gael trawiad ar y galon yr lleihau i’r un lefel â rhywun nad yw erioed wedi smygu.