Rhoi'r gorau i smygu ar gyfer dy fabi
Rhoi'r gorau i smygu yn ystod beichogrwydd
Y dewis gorau i ti a dy fabi
Rhoi’r gorau i smygu yw’r peth gorau y galli di ei wneud ar gyfer iechyd dy fabi. Wrth roi’r gorau i smygu, rwyt ti’n lleihau cysylltiad dy fabi â chemegau niweidiol mewn mwg tybaco, gan sicrhau bod dy fabi yn gallu tyfu a datblygu mewn amgylchedd iachach.
Efallai y byddi di’n profi symptomau dros dro dod oddi ar nicotin, fel anniddigrwydd neu ysfa am sigarét, ond fydd y rhain ddim yn niweidio dy fabi. Mewn gwirionedd, mae rhoi’r gorau i smygu yn gwella llif ocsigen a’r maetholion sy’n cyrraedd dy fabi, gan ei helpu i dyfu a datblygu. Mae rhoi’r gorau i smygu hefyd yn lleihau’r risg o gymhlethdodau difrifol, fel:
Gorau po gyntaf y byddi di’n rhoi’r gorau i smygu—ond dyw hi byth yn rhy hwyr i wneud newid cadarnhaol i ti a dy fabi.
Cymorth i dy helpu i roi'r gorau iddi
Does dim rhaid i ti roi’r gorau iddi ar dy ben dy hun. Mae Helpa Fi i Stopio yn darparu cymorth rhad ac am ddim, heb unrhyw un yn dy farnu, yn benodol ar gyfer smygwyr sy’n feichiog. Fe gei di’r canlynol
Rhoi’r gorau i smygu yn syth yw’r anrheg bwysicaf y galli di ei rhoi i dy fabi—ac i ti dy hun. Cysyllta â Helpa Fi i Stopio heddiw er mwyn dechrau dy daith tuag at ddyfodol iachach a di-fwg i ti a dy blentyn.
Cysylltu â ni
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig gwasanaethau cefnogol yn rhad ac am ddim i dy helpu i roi’r gorau i smygu am byth. Fe alli di ymddiried ynom i dy helpu i roi’r gorau i smygu er mwyn gwella dy iechyd dy hun ac iechyd dy deulu