Rhoi'r gorau i smygu er mwyn dy iechyd
Rhoi'r gorau i smygu yw'r peth gorau y galli di ei wneud i wella dy iechyd. Waeth pa mor hir rwyt ti wedi bod yn smygu, rydyn ni yma i dy gefnogi bob cam o'r ffordd.
O’r eiliad y byddi di’n rhoi’r gorau iddi, bydd dy gorff yn dechrau gwella ei hun—gan ddechrau bron yn syth. Byddi di’n rhyfeddu at y newidiadau anhygoel sy’n digwydd y tu mewn i ti, a chyn bo hir byddi di’n teimlo’r gwahaniaeth y mae rhoi’r gorau i smygu yn ei wneud i dy iechyd, dy egni a dy les!
Dyma gipolwg ar rai o'r newidiadau anhygoel y byddi di’n eu teimlo ar ôl rhoi'r gorau iddi:
Manteision tymor hir

Rhoi'r gorau i smygu er mwyn gwella dy iechyd meddwl
Efallai dy fod ti’n teimlo bod smygu yn dy helpu i ymlacio, rheoli straen, neu ymdopi â heriau bywyd—ond y gwir yw, dydy smygu ddim yn gwneud hynny.
Mae ymchwil yn dangos unwaith y byddi di wedi llwyddo i gwblhau’r cam cyntaf i ddod oddi ar nicotin, bydd dy lefelau pryder, iselder ysbryd a straen yn debygol o leihau. Hefyd, mae’r rhai sy’n rhoi’r gorau i smygu yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n hapusach ac yn fwy cadarnhaol na’r rhai sy’n dal i smygu.
Beth am roi cynnig ar deimlo’r gwahaniaeth? Mae cymorth Helpa Fi i Stopio ar gael bob cam o’r ffordd.
Ac nid dim ond dy gorff a dy feddwl sy'n elwa!

Dechrau dy daith rhoi'r gorau iddi
Os wyt ti’n barod i gymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol di-fwg, gad i ni dy helpu heddiw. Mae Helpa Fi i Stopio yma i roi’r siawns orau i ti roi’r gorau i smygu am byth.