Rhoi'r gorau i smygu o safbwynt ariannol
Stopio smygu, dechrau arbed
Yn ogystal â gwella dy iechyd, bydd rhoi’r gorau i smygu yn rhoi hwb enfawr i dy gyfrif banc!
Wyt ti’n gwybod bod smygwr cyffredin yn y DU yn gwario miloedd o bunnoedd bob blwyddyn ar sigaréts?
Fe alli di ddefnyddio’r arian hwn i wireddu dy freuddwydion. Dyma’r manylion:

Faint o arian allet ti ei arbed?
Defnyddia ein Cyfrifiannell Arbedion i weld faint yn union allet ti ei arbed ac yna amdani i ddechrau cynllunio dy drît mawr nesaf!
Paid â phoeni os wyt ti’n talu llai (neu fwy) am sigaréts na’r enghreifftiau uchod—fe alli di newid pris y pecyn i gyd-fynd â’r hyn rwyt ti’n ei wario. Mae modd defnyddio’r Gyfrifiannell Arbedion hefyd os wyt ti’n smygu tybaco sy’n cael ei rolio. Cofnoda’r manylion a byddwn yn dy helpu i gyfrif dy arbedion.
Mae’n broses gyflym a hawdd, ac efallai mai dyma’r hwb fydd ei angen arnat ti i roi’r gorau i smygu a dechrau arbed arian!

Dy Gyfrifiannell Arbedion
Byddi di'n arbed...
Yn seiliedig ar bris becyn cyfartalog o 20 sigaréts maint 'king' £16.35
Dyw hi byth yn rhy hwyr i roi'r gorau i smygu a dechrau arbed arian.
Cysyllta â Helpa Fi i Stopio heddiw er mwyn cymryd dy gam gyntaf tuag at ddyfodol di-fwg a’r rhyddid ariannol a ddaw gyda hynny.
