Rhoi'r gorau iddi gyda Helpa Fi i Stopio
Croeso i dy daith ddi-fwg!
Os wyt ti’n darllen hwn, mae’n debyg dy fod ti’n ystyried rhoi’r gorau i smygu—sy’n golygu dy fod ti eisoes wedi cymryd cam cyntaf pwysig tuag at fod yn ddi-fwg. Rydyn ni’n gwybod y gall penderfynu rhoi’r gorau i smygu deimlo fel penderfyniad enfawr, ond dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn penderfynu rhoi’r gorau i smygu, ac mae llawer yn llwyddo, diolch i’r adnoddau a’r cymorth arbenigol sydd ar gael drwy Helpa Fi i Stopio.
Opsiynau cymorth
Mae ein cymorth rhoi’r gorau i smygu ar gael yn rhad ac am ddim i dy helpu i roi’r gorau iddi am byth. Mae pob taith yn unigryw, a bydd ein cynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda ti i greu cynllun personol sy’n gweithio i ti. Dim darlithoedd, dim beirniadaeth – dim ond cyngor ac adnoddau ymarferol a digon o anogaeth.
Mae yna bob math o opsiynau cymorth rhoi’r gorau i smygu ac maen nhw ar gael ledled Cymru. Fe alli di ddewis a dethol gwasanaethau ar sail beth sy’n gweithio i ti a bydd dy siawns o lwyddo yn cael hwb heb ei ail.
Cymorth dros y ffôn
Angen siarad â rhywun? Beth am ffonio ein cynghorwyr cyfeillgar, sydd wedi’u hyfforddi’n llawn? Bydd cyfle i ti sgwrsio’n rheolaidd a chael dy annog ar adegau sy’n gyfleus i ti. Rydyn ni yma i wrando a dy arwain di bob cam o’r ffordd gan gynnig cymorth cyfrinachol, heb neb yn dy feirniadu.
Cymorth un i un
Efallai y byddai’n well gen ti gwrdd wyneb yn wyneb? Mae modd i ti gwrdd ag arbenigwr rhoi’r gorau i smygu yn rhywle sy’n lleol i ti. Gallai hyn gynnwys dy ganolfan gymunedol leol, ysbyty cyfagos neu dy fferyllfa gymunedol. Bydd ein tîm cyfeillgar yn gallu dweud wrthyt ti beth sydd ar gael yn dy ardal di! Diolch i gyngor a chymorth arbenigol a phersonol, bydd gen ti bopeth sydd ei angen arnat ti i lwyddo.
Sesiynau grŵp
Ymuna â miloedd o bobl eraill sydd ar yr un daith â ti! Bydd cyfle i rannu profiadau, datblygu cymhelliant a chefnogi eich gilydd mewn amgylchedd cadarnhaol (heb neb yn eich beirniadu). Drwy fynd ar y daith gyda phobl eraill, bydd gen ti’r siawns orau o roi’r gorau i smygu am byth!
Meddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu
Mae rheoli’r ysfa am sigarét yn gallu bod yn anodd, yn enwedig yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, ond does dim rhaid i ti wynebu hyn ar dy ben dy hun. Galli di gael gwerth hyd at £250 o Therapi Disodli Nicotin (NRT) yn rhad ac am ddim, fel patshys neu gwm, i dy helpu i aros yn ddi-fwg ac mewn rheolaeth. Os yw hynny’n addas, fe allwn ni dy helpu hefyd i gael meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn unig fel Varenicline er mwyn dy helpu i fynd yn ddi-fwg. Mae’r cymorth yn para hyd at 12 wythnos a bydd ein cynghorwyr arbenigol yn argymell yr opsiynau gorau i ti.

Barod i gychwyn dy daith rhoi'r gorau iddi?
Beth am gymryd y cam cyntaf heddiw a rhoi hwb o hyd at 300% i dy siawns o lwyddo o’i gymharu â cheisio rhoi’r gorau iddi ar dy ben dy hun!