Llongyfarchiadau! Rwyt ti wedi cychwyn dy daith tuag at ddyfodol di-fwg!

Fe alli di lwyddo - a byddwn ni gyda ti bob cam o'r ffordd!

O dy alwad gyntaf i ddathlu dy gerrig milltir di-fwg, mae Hela Fi i Stopio yma i dy gefnogi, dy arwain a rhoi hwb i ti! Bydd cynghorydd cyfeillgar o Helpa Fi i Stopio yn cysylltu â ti o fewn y ddau ddiwrnod gwaith nesaf i sgwrsio am dy opsiynau ar gyfer rhoi’r gorau i smygu. Os na allwn ni gysylltu â ti ar unwaith, paid â phoeni—byddwn ni’n trio hyd at bum gwaith.

Cadwa lygad am ein galwad, oherwydd fe allai’r rhif fod yn un dienw.

Os na fyddi di wedi clywed gennym o fewn wythnos, ffonia ni ar 0800 085 2219.

Dynes mewn cot a sgarff melyn yn edrych i'r pellter a gwenu gyda chefndir pinc golau cylch

Mae help llaw yn gwneud byd o wahaniaeth

A oeddet ti’n gwybod bod rhoi’r gorau i smygu gyda help y GIG yn golygu dy fod ti dair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo o’i gymharu â cheisio rhoi’r gorau iddi ar dy ben dy hun? Mae’n gwbl naturiol i ti deimlo ychydig yn nerfus, ond paid â phoeni – rydyn ni yma i dy arwain bob cam o’r ffordd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim heb unrhyw un yn dy farnu, gan arbenigwr cyfeillgar, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
  • Fe alli di ddewis cymorth un i un neu sesiynau grŵp gydag eraill sydd ar yr un daith â ti tuag at ddyfodol di-fwg.
  • Sesiynau wythnosol wedi’u teilwra i dy anghenion, ynghyd â mynediad at feddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu rhad ac am ddim sy’n arbed £250 i ti.
  • Monitro dy gynnydd yn rheolaidd er mwyn dy helpu i aros ar y trywydd iawn.

Beth fydd angen i mi ei wneud?

  • Ateb ein galwad! Byddwn ni’n ceisio cysylltu â ti yn ystod y ddau ddiwrnod gwaith nesaf i drefnu dy apwyntiad cyntaf.
  • Gosod dy ddyddiad ar gyfer rhoi’r gorau i smygu. Byddi di’n dechrau dy daith ddi-fwg o fewn pythefnos ac yn cael cymorth gennym i ymrwymo i ‘beidio â smygu’r un pwff’ ar ôl y dyddiad hwn (noda dy ddyddiad).
  • Dal ati. Cofia fynychu dy apwyntiadau wythnosol er mwyn i ti gael y siawns orau o roi’r gorau i smygu am byth. Mae sesiynau’n para rhwng 20 munud ac awr fel arfer, gan ddibynnu ar y math o gymorth rwyt ti wedi’i ddewis.
Dynes mewn cot felen a sgarff glas yn gwenu gyda choed a dail yr Hydref yn y cefndir.

Rydyn ni'n gwybod nad yw hi bob amser yn hawdd rhoi'r gorau i smygu

Fe alli di lwyddo gyda’r cymorth cywir a chynllun clir. A chofia, dwyt ti ddim yn gwneud hyn ar dy ben dy hun—mae miloedd o bobl eraill o bob rhan o Gymru wedi derbyn cymorth gennym i roi’r gorau i smygu, ac fe wnei di lwyddo hefyd!

Dyn a dynes yn eistedd tu allan pod glampio yn gwenu. Mae'r ddynes yn arllwys diod dwym i fwg iddynt fwynhau

Bydd ein harbenigwyr wrth law bob cam o'r ffordd

Rydyn ni’n barod i ddarparu cymorth, anogaeth, cyngor ymarferol, a’r adnoddau sydd eu hangen arnat i lwyddo. Bydd rhoi’r gorau i smygu yn gwneud gwahaniaeth i dy iechyd, i dy anwyliaid ac i dy gyllid!

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.