Smygu Heb Ffilter
Aros yn ddi-fwg yw'r dewis gorau alli di wneud.
A oeddet ti’n gwybod bod pob sigarét yn cynnwys dros 7,000 o gemegion, gan gynnwys arsenig, amonia, a fformaldehyd. Pethau fyddet byth yn eu cyffwrdd, heb sôn am eu hanadlu i mewn!
Gall hyd yn oed ysmygu achlysurol gwneud niwed ac effeithio ar dy hwyliau, a’i gwneud hi’n anoddach rhoi’r gorau iddi yn ddiweddarach. Mae dechrau ysmygu pan fyddi di’n ifanc yn cynyddu’r risg o gaethiwed hefyd.
Does dim maint diogel o ysmygu tybaco.
Nid yw rhoi'r gorau i 'smygu yn hawdd.
Mae’n anodd torri’n rhydd o’r cemegau caethiwus sy’n cael eu hychwanegu gan gwmnïau tybaco mawr i gael chi’n gaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ysmygu eisiau rhoi’r gorau iddi – mewn gwirionedd mae mwy na hanner yr ysmygwyr eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yn y flwyddyn nesaf a bydd llawer yn ceisio dro ar ôl tro. Gallwch osgoi’r llwybr anodd trwy aros yn ddi-fwg.