Gofynnwch I ni eich ffonio'n Ôl
Taleb Meddyginiaeth Stopio Smygu: Telerau ac Amodau

 

Cyflwyniad
  • Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i’r prosiect talebau a gyflawnir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fel rhan o weithgaredd hyrwyddo Helpa Fi i Stopio lleol.
  • Nod y prosiect talebau yw annog smygwyr sydd wedi’u cymell i stopio smygu i roi’r gorau iddi trwy wasanaethau stopio smygu’r GIG.
  • Mae’r daleb yn gyfnewid am feddyginiaeth stopio smygu rad ac am ddim, a chefnogaeth gymhellol gan fferyllydd cymunedol.
  • Argymhellwn eich bod chi’n argraffu a/neu’n cadw copi o’r telerau ac amodau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.

 

Meini Prawf Cymhwyster

 

Gogledd Cymru
Rhaid i’r cyfranogwyr fod:
  • Yn 18 oed neu’n hŷn adeg cymryd rhan.
  • Wedi cael eu gwahodd gan eu meddygfa trwy lythyr.
Gwent
  • Yn 16 oed neu’n hŷn adeg cymryd rhan.
  • Wedi cael eu gwahodd gan eu meddygfa trwy lythyr.

 

Defnyddio’r Daleb
  • Ni ellir cael ad-daliad na chyfnewid y daleb am arian, nac unrhyw daleb arall.
  • Gellir ond defnyddio’r daleb yn gyfnewid am feddyginiaeth stopio smygu drwyddedig mewn fferyllfeydd sy’n cymryd rhan.
  • Ni ellir gwerthu’r daleb i unrhyw drydydd parti.
  • Ni ellir rhoi’r daleb i unrhyw un arall ar wahân i’r sawl sydd i fod i gael y daleb.

 

Mwy o wybodaeth
  • Mae meddyginiaeth stopio smygu drwyddedig yn cynnwys therapïau  amnewid nicotin a meddyginiaethau trwyddedig ar bresgripsiwn.
  • Mae therapïau amnewid nicotin (NRT) yn drwyddedig i’w defnyddio o 12 oed; dylai smygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu ac sy’n dymuno defnyddio therapïau amnewid nicotin geisio cyngor gan arbenigwyr stopio smygu Helpa Fi i Stopio neu fferyllydd.
  • Caiff therapïau amnewid nicotin rhad ac am ddim eu hariannu gan GIG Cymru, ac maent ar gael fel rhan o ymgais rhoi’r gorau i smygu strwythuredig yn unig, sy’n gynnwys cefnogaeth ysgogiadol.
  • Mae meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn unig, fel Varenicline a Bupropion, yn drwyddedig i’w defnyddio o 18 oed, ond maent yn amodol ar gyflyrau iechyd ac, yn aml, mae angen ymgynghoriad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel meddyg teulu. Gallwch siarad ag arbenigwr stopio smygu Helpa Fi i Stopio i gael mwy o wybodaeth, neu eich fferyllydd.
  • Cysylltwch â Helpa Fi i Stopio i gael mwy o wybodaeth:

Ffoniwch: 0800 085 2219

Ewch i: www.helpafiistopio.cymru

  • At sylw’r fferyllfa: Fferyllfeydd sy’n darparu gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu Lefel 3 yn unig all gyflenwi cefnogaeth rhoi’r gorau i smygu ac NRT. Cadwch y daleb hon yn y fferyllfa. Os nad ydych chi’n darparu’r gwasanaeth hwn, a wnewch chi eu cyfeirio nhw.