Rhoi'r gorau i smygu ar gyfer dy anwyliaid

Oeddet ti’n gwybod bod rhoi'r gorau i smygu o fudd i dy anwyliaid hefyd?

Wrth roi'r gorau i smygu, rwyt ti’n gwneud newid cadarnhaol i dy fywyd dy hun ac yn diogelu iechyd a lles dy anwyliaid.

Yn ogystal â niweidio dy iechyd, mae smygu yn cael effaith niweidiol ar y bobl o dy gwmpas oherwydd mwg ail-law. Os wyt ti’n smygu yn dy gartref neu yn dy gar, mae dy anwyliaid – yn enwedig plant – mewn perygl o anadlu cemegau niweidiol, sy’n gallu arwain at broblemau iechyd difrifol.

Mae rhai pobl yn dewis smygu yn yr awyr agored er mwyn lleihau’r risg hon, ond oeddet ti’n gwybod bod mwg ail-law yn gallu aros ar dy ddillad, dy wallt a dy groen? Felly, hyd yn oed wrth smygu yn yr awyr agored, mae’n bosibl y byddi di’n rhoi dy anwyliaid mewn perygl oherwydd tocsinau niweidiol. Hefyd, mae gadael y tŷ i gael sigarét yn golygu dy fod ti’n treulio llai o amser gyda dy deulu.

Y ffordd orau o ddiogelu iechyd dy deulu a mwynhau adegau pwysig bywyd yn llawn yw rhoi’r gorau i smygu am byth.
Dyn a merch ifanc yn dathlu ei phen-blwydd gyda chacen a chanhwyllau

Fe alli di gychwyn dy daith i roi'r gorau i smygu gyda Helpa Fi i Stopio trwy drwy ffonio yn rhad ac am ddim ar 0800 085 2219

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i smygu gyda rhywun arall yn gwella’r siawns o lwyddo i’r naill a’r llall.

Waeth a wyt ti’n rhoi’r gorau iddi ar dy ben dy hun neu gydag eraill, beth am gychwyn dy daith i roi’r gorau iddi heddiw a pharatoi i deimlo’r gwahaniaeth? Fe wnei di deimlo’n well, arbed arian, amddiffyn dy deulu, a chreu mwy o atgofion sy’n wirioneddol bwysig.

Peryglon Cudd Mwg Ail-law

Wrth smygu, rwyt ti ond yn anadlu tipyn bach o’r mwg y mae dy sigarét yn ei gynhyrchu. Mae’r rhan fwyaf o’r mwg yn mynd i’r aer o dy gwmpas, ac o ganlyniad mae pobl eraill yn dod i gysylltiad â’r hyn sy’n cael ei alw’n fwg goddefol neu ail-law.

Mae’r mwg hwn yn hynod niweidiol i unrhyw un sy’n ei anadlu, gan ei fod yn cynnwys dros 4000 o gemegau gwenwynig, ac mae llawer ohonyn nhw’n gysylltiedig â phroblemau iechyd difrifol. Mae 85% o’r mwg yn anweledig, felly mae’n anodd gweld y perygl.

Cynyddu'r risg o ganser yr ysgyfaint a chlefyd y galon i bobl sydd ddim yn smygu
Lleihau swyddogaeth yr ysgyfaint i bobl ag asthma a'r rhai sydd â chyflyrau anadlol cronig
Cynyddu'r risg o heintiau anadlu isaf i blant, fel niwmonia a broncitis
Cynyddu'r risg o glefyd yn y glust ganol i blant
Dyblu'r risg o lid yr ymennydd bacteriol mewn plant
Dyblu'r risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS, sydd hefyd yn cael ei alw’n farwolaeth yn y crud), ar gyfer babanod sy'n byw gyda smygwyr

Mae plant sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn perygl o ddioddef problemau iechyd, ac maen nhw hefyd hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn smygwyr eu hunain yn ddiweddarach yn eu bywydau, gan gynyddu’r posibilrwydd o ddatblygu afiechydon sy’n gysylltiedig â smygu.

Yn ogystal ag effeithio ar bobl, nodwyd bod mwg ail-law yn gysylltiedig â phroblemau anadlu a rhai mathau o ganser mewn anifeiliaid anwes hefyd.

Dyn hen yn gwenu gyda chefndir pinc tywyll cylch

Mi ges i ddiagnosis o ganser, ac yn sydyn mi wnes i ddechrau meddwl am fy wyrion. Roedd angen i fi roi’r gorau i smygu.

Cysylltu â ni

Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig gwasanaethau cefnogol yn rhad ac am ddim i dy helpu i roi’r gorau i smygu am byth. Fe alli di ymddiried ynom i dy helpu i roi’r gorau i smygu er mwyn gwella dy iechyd dy hun ac iechyd dy deulu.

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.