A yw hi’n amser i chi roi'r gorau iddi?

Os ydych chi'n defnyddio fêps tafladwy, efallai y bydd y gwaharddiad yn gwneud i chi feddwl am eich fêpio ac a yw hi'n amser i roi'r gorau iddi.

Mae fepio yn llai niweidiol nag ysmygu, ond nid yw’n ddi-risg. Mae’r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy’n gaethiwus. Gall nicotin ei gwneud hi’n anoddach i chi ganolbwyntio a gall hefyd achosi problemau gyda chwsg, cur pen a hwyliau. Mae effeithiau hirdymor fêpio yn dal i gael eu hastudio, ond mae ymchwil gynnar yn dangos y gallai effeithio ar iechyd eich calon a’ch ysgyfaint, yn enwedig os oes gennych chi broblemau iechyd eisoes.

Dynes mewn cot a sgarff melyn yn edrych i'r pellter a gwenu gyda chefndir glas cylch

Gall penderfynu rhoi’r gorau i fêpio fod yn gam pwerus tuag at adennill rheolaeth dros eich bywyd.

P’un a ydych chi wedi blino ar fod yn ddibynnol ar nicotin, eisiau arbed arian, neu ddim ond yn teimlo’n barod am ddechrau newydd, gall gwybod eich rhesymau dros roi’r gorau iddi fod yn gymhelliant cryf. Cofiwch, eich penderfyniad chi yw hwn – mae’n ymwneud â gwneud newid cadarnhaol y gallwch chi deimlo’n dda amdano.

Dyma rai o fanteision rhoi'r gorau i fêpio

  • Torri'n rhydd o ddibyniaeth ar nicotin

    Adennill rheolaeth dros eich arferion a lleihau eich dibyniaeth ar gynnyrch nad ydym yn gwybod llawer amdano eto.

  • Arbed arian

    Gall fêpio fod yn syndod o ddrud, yn enwedig dros amser.

  • Lleihau pryder ynghylch iechyd

    Osgoi’r pryder cyson am effeithiau hirdymor posibl.

  • Ennill rhyddid

    Peidio â bod ynghlwm wrth ddyfais nac yn chwilio am leoedd i fêpio.

  • Gosod esiampl gadarnhaol

    Bod yn fodel rôl i’ch plant neu gefnogi ffrindiau neu deulu a allai fod eisiau rhoi’r gorau iddi hefyd.

Mae arbenigwyr yn cytuno mai dim ond oedolion sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu ddylai ddefnyddio fêps. Ni ddylent gael eu defnyddio gan blant na phobl ifanc, yn enwedig os nad ydyn nhw erioed wedi ysmygu.

Angen fwy o wybodaeth am y gwaharddiad ar fêps tafladwy yn y DU?

Dyn a dynes yn eistedd tu allan pod glampio yn gwenu. Mae'r ddynes yn arllwys diod dwym i fwg iddynt fwynhau.

Lluniwch eich cynllun rhoi'r gorau iddi personol am ddim

Os oeddech chi’n arfer ysmygu a nawr yn ystyried rhoi’r gorau i fêps nicotin, mae risg y gallech chi gael eich temtio i ddechrau ysmygu eto. Dylech chi roi’r gorau i fêpio dim ond os ydych chi’n siŵr y gallwch chi aros yn ddi-fwg. Bydd defnyddio’r offeryn ‘Eich Cynllun Stopio’ yn eich helpu i lwyddo!

Os ydych chi’n ysmygu tybaco ac yn fêpio ar hyn o bryd, gallwn ni eich cefnogi gyda’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio llawn sy’n cynnwys 7 wythnos o gefnogaeth arbenigol a Therapi Disodli Nicotin (NRT) am ddim. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor!

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.