A yw hi’n amser i chi roi'r gorau iddi?
Os ydych chi'n defnyddio fêps tafladwy, efallai y bydd y gwaharddiad yn gwneud i chi feddwl am eich fêpio ac a yw hi'n amser i roi'r gorau iddi.
Mae fepio yn llai niweidiol nag ysmygu, ond nid yw’n ddi-risg. Mae’r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy’n gaethiwus. Gall nicotin ei gwneud hi’n anoddach i chi ganolbwyntio a gall hefyd achosi problemau gyda chwsg, cur pen a hwyliau. Mae effeithiau hirdymor fêpio yn dal i gael eu hastudio, ond mae ymchwil gynnar yn dangos y gallai effeithio ar iechyd eich calon a’ch ysgyfaint, yn enwedig os oes gennych chi broblemau iechyd eisoes.
Gall penderfynu rhoi’r gorau i fêpio fod yn gam pwerus tuag at adennill rheolaeth dros eich bywyd.
P’un a ydych chi wedi blino ar fod yn ddibynnol ar nicotin, eisiau arbed arian, neu ddim ond yn teimlo’n barod am ddechrau newydd, gall gwybod eich rhesymau dros roi’r gorau iddi fod yn gymhelliant cryf. Cofiwch, eich penderfyniad chi yw hwn – mae’n ymwneud â gwneud newid cadarnhaol y gallwch chi deimlo’n dda amdano.
Dyma rai o fanteision rhoi'r gorau i fêpio
Mae arbenigwyr yn cytuno mai dim ond oedolion sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu ddylai ddefnyddio fêps. Ni ddylent gael eu defnyddio gan blant na phobl ifanc, yn enwedig os nad ydyn nhw erioed wedi ysmygu.
Angen fwy o wybodaeth am y gwaharddiad ar fêps tafladwy yn y DU?
Lluniwch eich cynllun rhoi'r gorau iddi personol am ddim
Os oeddech chi’n arfer ysmygu a nawr yn ystyried rhoi’r gorau i fêps nicotin, mae risg y gallech chi gael eich temtio i ddechrau ysmygu eto. Dylech chi roi’r gorau i fêpio dim ond os ydych chi’n siŵr y gallwch chi aros yn ddi-fwg. Bydd defnyddio’r offeryn ‘Eich Cynllun Stopio’ yn eich helpu i lwyddo!
Os ydych chi’n ysmygu tybaco ac yn fêpio ar hyn o bryd, gallwn ni eich cefnogi gyda’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio llawn sy’n cynnwys 7 wythnos o gefnogaeth arbenigol a Therapi Disodli Nicotin (NRT) am ddim. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor!