Deall y gwaharddiad ar dêps tafladwy – pam mae'n bwysig

Ers 1 Mehefin 2025 mae cyfraith newydd yn atal gwerthu fêps tafladwy yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae’r newid hwn yn ymwneud yn bennaf â lleihau gwastraff a diogelu’r amgylchedd. Canfu ymchwil gan Material Focus yn 2024 fod tua 8.2 miliwn o fêps bellach yn cael eu taflu neu eu hailgylchu’n anghywir bob wythnos – 13 pob eiliad. Bydd y gwaharddiad hefyd yn helpu i leihau fêpio gan bobl ifanc oherwydd bod fêps tafladwy yn parhau i fod y cynnyrch mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc sy’n fêpio.

Fodd bynnag, nid yw’r gwaharddiad hwn yn golygu diwedd fêpio. Bydd fêps amldro, y gelllir eu hailwefru ar gael o hyd. Mae’r rhain yn opsiwn mwy cyfeillgar i’r amgylchedd i oedolion sydd eisiau help i roi’r gorau i ysmygu. Os ydych chi eisoes yn meddwl am roi’r gorau i fêpio, gallai nawr fod yn amser gwych i wneud newid cadarnhaol, parhaol. Bydd defnyddio’r Offeryn Eich Cynllun Stopio yn eich helpu i lwyddo.

Beth mae'r gwaharddiad yn ei olygu?

O 1 Mehefin 2025, dim ond fêps amldro, y gellir eu hailwefru a'u hail-lenwi sydd ar gael yn gyfreithiol yng Nghymru. Os ydych chi'n bwriadu parhau i fepio, dyma beth ddylech chi ei wybod:

Mae gennych chi opsiynau o hyd

Mae fêps amldro ar gael mewn llawer o ffurfiau a chryfderau nicotin, felly gallwch ddod o hyd i un sy’n addas i chi.

Arbed arian yn y tymor hir

Gall fêps amldro gostio mwy ar y dechrau, ond fel arfer maent yn rhatach i’w defnyddio na fêps tafladwy dros amser.

Effaith amgylcheddol

Mae ailgylchu fêps yn bwysig oherwydd ei fod yn arbed deunyddiau gwerthfawr. Gellir ailddefnyddio bron i 80% o fêps, gan gynnwys digon o lithiwm i bweru miloedd o geir trydan bob blwyddyn pe bai pawb yn ailgylchu eu fêps.

Cyfrifoldeb ailgylchu

Dylai pob manwerthwr fêps gynnig gwasanaeth ‘cymryd yn ôl’ ar gyfer fêps, podiau, coiliau a batris a ddefnyddiwyd. Gallwch ddod o hyd i’ch man ailgylchu fêps agosaf yma (dolen Saesneg yn unig).

Cyfyngiadau oedran

Mae’n anghyfreithlon gwerthu neu brynu fêps sy’n cynnwys nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Mae gwerthu neu brynu fêps i blant dan 18 oed yn erbyn y gyfraith a gellir rhoi dirwyon i fanwerthwyr neu unigolion sy’n torri’r cyfreithiau hyn.

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.