Eich Cynllun Stopio
Gall rhoi'r gorau iddi fod yn heriol, ond mae cael cynllun yn ei le yn cynyddu eich siawns o lwyddo.
Dylech greu eich cynllun personol i baratoi a dysgu beth i'w ddisgwyl ar eich taith. Dilynwch ychydig o gamau syml i greu cynllun wedi'i deilwra i chi.
Gallwch lawrlwytho neu argraffu eich cynllun rhoi'r gorau iddi er mwyn troi ato’n rhwydd. Mae eich gwybodaeth yn breifat ac yn ddiogel a dim ond chi fydd yn gallu gweld eich ffurflen wedi'i chwblhau.
Beth wyt ti eisiau rhoi’r gorau iddo?
Os ydych chi'n defnyddio tybaco a fêps, dewiswch yr opsiwn tybaco yn Fy Nghynllun Rhoi'r Gorau Iddi. Gallai hyn eich gwneud chi'n gymwys i gael mynediad at wasanaeth cymorth llawn Helpa Fi i Stopio.
Da iawn—rydych chi newydd gymryd eich cam cyntaf tuag at roi’r gorau i fêps!
Pwysig!
Os oeddech chi'n arfer ysmygu a nawr yn ystyried rhoi'r gorau i fêps nicotin, mae risg y gallech chi gael eich temtio i ddechrau ysmygu eto. Dylech roi'r gorau i fepio dim ond os ydych chi'n siŵr y gallwch chi aros yn ddi-fwg. Bydd defnyddio 'Eich Cynllun Rhoi'r Gorau i Ysmygu’ yn eich helpu i lwyddo!
Da iawn—rydych chi newydd gymryd eich cam cyntaf tuag at roi’r gorau i ysmygu!
Dewis eich Dyddiad Rhoi'r Gorau iddi
Dechreuwch drwy bennu eich dyddiad rhoi'r gorau iddi.
Dewiswch ddiwrnod yn y pythefnos nesaf. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi baratoi. Dewiswch ddyddiad nad yw eisoes yn debygol o fod yn un llawn straen.
Dewiswch ddiwrnod yn y pythefnos nesaf. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi baratoi. Dewiswch ddyddiad nad yw eisoes yn debygol o fod yn un llawn straen neu lle rydych chi'n debygol o gymdeithasu neu fod yng nghwmni ysmygwyr eraill.
Os nad ydych yn barod i bennu dyddiad rhoi'r gorau iddi, gallwch ddal i greu cynllun rhoi'r gorau iddi i'w ddefnyddio yn y dyfodol.
Dewiswch ddiwrnod yn y pythefnos nesaf.
Os nad ydych chi'n barod i osod dyddiad rhoi'r gorau iddi, gallwch chi barhau i wneud cynllun rhoi'r gorau iddi neu archwilio adnoddau Helpa Fi i Stopio eraill.
Pa mor ddibynnol ydych chi ar nicotin?
Os ydych chi hefyd yn defnyddio tybaco ac eisiau rhoi'r gorau iddi, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael mynediad at ein cynnig cymorth Helpa Fi i Stopio llawn. Dysgwch ragor am ein cymorth i ysmygwyr yma.
Faint ydych chi'n ei wario?
Amcangyfrifwch faint, ar gyfartaledd, rydych chi'n ei wario ar fepio mewn wythnos. Cofiwch gynnwys popeth: fêps, podiau, hylif ac ati. Bydd ein cyfrifiannell yn eich helpu i ddarganfod faint o arian y gallwch ei arbed drwy roi'r gorau iddi
Amcangyfrifwch faint, ar gyfartaledd, rydych chi'n ei wario ar ysmygu mewn wythnos. Bydd ein cyfrifiannell yn eich helpu i ddarganfod faint o arian y gallwch ei arbed drwy roi'r gorau iddi
Pam rydych chi’n rhoi'r gorau iddi?
Gall gwybod pam rydych chi am roi'r gorau i fepio eich helpu i gadw ffocws, yn enwedig pan fydd pethau’n mynd yn anodd.
Gall gwybod pam rydych chi am roi'r gorau i ysmygu eich helpu i gadw ffocws, yn enwedig pan fydd pethau’n mynd yn anodd.
Dewiswch eich rhesymau dros roi'r gorau iddi o’r isod. Byddwn yn eu hychwanegu at eich cynllun personol ar gyfer rhoi'r gorau iddi:
Nodwch eich sbardunau
Sbardunau yw'r teimladau, y lleoedd neu'r sefyllfaoedd sy'n sbarduno'r ysfa i fepio.
Sbardunau yw'r teimladau, y lleoedd, neu'r sefyllfaoedd sy'n sbarduno'r ysfa i ysmygu.
Efallai na fyddwch yn gallu eu hosgoi i gyd, ond gall cynllunio ymlaen llaw ei gwneud hi'n haws aros ar y trywydd iawn.
Dewiswch y sbardunau sy'n gwneud i chi fepio. Byddant yn cael eu hychwanegu at eich cynllun rhoi'r gorau iddi.
Dewiswch y sbardunau sy'n gwneud i chi ysmygu. Byddant yn cael eu hychwanegu at eich cynllun rhoi'r gorau iddi.
Emosiynol
Arferion
Cymdeithasol
Cymdeithasol
Diddyfnu Nicotin
Diddyfnu Nicotin
Paratowch i frwydro yn erbyn pyliau o grefu
Bydd pyliau o grefu ond yn para am ychydig funudau - ond gall y munudau hynny fod yn anodd.
Dewiswch y math o grefu y byddwch yn ei gael fel arfer. Bydd yr awgrymiadau ar gyfer trechu'r pyliau hyn o grefu’n cael eu hychwanegu at eich cynllun rhoi'r gorau iddi.
Dewis eich llwybr rhoi'r gorau iddi
Gan eich bod wedi archwilio'ch rhesymau dros roi'r gorau iddi ac wedi meddwl pa mor barod ydych chi, mae'n bryd penderfynu sut fyddwch chi'n mynd ati.
Mae dau brif ddull i'w hystyried wrth roi’r gorau i fepio.
Pa lwybr ydych chi'n meddwl fyddai orau i chi?
Adeiladu eich rhwydwaith cymorth
Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn haws pan fydd gennych gefnogaeth y rhai sy’n annwyl i chi. Rhowch wybod i'ch teulu a'ch ffrindiau eich bod yn rhoi'r gorau iddi neu gwahoddwch ffrind i roi'r gorau iddi gyda chi.
Dywedwch wrth ffrindiau a theulu eich bod yn rhoi'r gorau iddi
Gwahoddwch ffrind i roi'r gorau iddi gyda chi
Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cymryd eich cam cyntaf tuag at roi’r gorau i fêps.
P'un a ydych chi'n gyn ysmygwr sydd wedi defnyddio fêps yn llwyddiannus i roi'r gorau i ysmygu neu'n rhywun sydd wedi fepio erioed, rydym yn cydnabod y gall rhoi'r gorau i fepio fod yn her ac rydym yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn Eich Cynllun Rhoi'r Gorau Iddi, ac awgrymiadau a chynghorion ar baratoi ar gyfer rhoi'r gorau i fepio a pharhau i beidio â fepio am byth.
Pwysig!
Gall rhoi'r gorau i fepio nicotin achosi symptomau diddyfnu, a allai eich temtio i estyn am sigarét os ydych wedi ysmygu o'r blaen. Dyna pam y mae’n bwysig rhoi'r gorau i fepio dim ond pan fyddwch yn teimlo'n hyderus y gallwch wneud hynny heb fynd nôl i ysmygu.
Os yw fepio’n eich helpu i gadw draw wrth dybaco, does dim brys i roi'r gorau iddi. Y gamp yw rhoi'r gorau iddi pan fyddwch yn barod, fel na fyddwch yn cynyddu'r risg o ddechrau ysmygu.
Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cymryd eich cam cyntaf tuag at roi’r gorau i ysmygu.
Rydyn ni'n gwybod bod rhoi'r gorau i ysmygu yn gallu bod yn her ac rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn eich Cynllun Rhoi’r Gorau Iddi, ac awgrymiadau a chynghorion wrth baratoi ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu a dal ati i beidio ag ysmygu am byth.
Pwysig!
Mae'n bwysig rhoi'r gorau i ysmygu dim ond pan fyddwch yn teimlo'n hyderus y gallwch wneud hyn. Os byddwch yn defnyddio fêps i'ch helpu i roi'r gorau iddi, yna parhewch i wneud hynny hyd nes y byddwch yn teimlo eich bod yn barod i roi'r gorau i fepio hefyd. Yna dewch yn ôl i'r dudalen hon unwaith eto i gael cefnogaeth.
Eich Cynllun Rhoi'r Gorau Iddi
Eich dyddiad rhoi'r gorau iddi
Defnyddiwch yr amser hwn cyn eich dyddiad rhoi'r gorau iddi i adolygu eich cynllun rhoi'r gorau iddi a chymryd camau i baratoi ar ei gyfer. Gall rhoi'r gorau iddi fod yn haws pan fyddwch yn barod i wynebu unrhyw heriau sy'n dod i'ch rhan.
Beth i’w ddisgwyl
Efallai y byddwch chi'n profi symptomau diddyfnu pan fyddwch yn rhoi'r gorau i fepio. Diddyfnu yw’r adeg pan fydd eich corff yn addasu i beidio â chael nicotin.
Efallai y byddwch chi:
- yn teimlo’n bigog, yn aflonydd neu'n isel eich hwyliau
- yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio neu’n teimlo mwy o awydd i fepio
Mae crefu am fêp yn para 3-5 munud fel arfer a bydd hyn yn llai o broblem wrth i amser fynd yn ei flaen. Y peth pwysicaf yw peidio â fepio.
Beth i’w ddisgwyl
Efallai y byddwch yn profi symptomau diddyfnu pan fyddwch yn rhoi'r gorau i ysmygu. Diddyfnu yw’r adeg pan fydd eich corff yn addasu i beidio â chael nicotin.
Efallai y byddwch chi:
- yn teimlo’n bigog, yn aflonydd neu'n isel eich hwyliau
- yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu’n teimlo mwy o awydd i ysmygu
- yn sylwi ar fwy o besychu neu godi fflem neu fwcws
Mae crefu am sigarét yn para 3-5 munud fel arfer a bydd hyn yn llai o broblem wrth i amser fynd yn ei flaen. Y peth pwysicaf yw peidio ag ysmygu.
1 diwrnod di-fêp
Bydd mynd drwy eich diwrnod cyntaf heb fepio yn gamp fawr, ond dylech fod yn ymwybodol mai ar ddiwrnodau 2 a 3 y bydd y pyliau o grefu gryfaf! Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun ar gyfer rheoli'r rhain. Bydd ein pecyn yn helpu gyda hyn.
1-2 wythnos ddi-fêp
Bydd y nicotin allan o'ch corff. Bydd y symptomau diddyfnu corfforol yn pylu.
Beth i’w ddisgwyl
Bydd y rhan fwyaf o’r symptomau diddyfnu’n pylu ymhen pythefnos. Efallai y bydd eich system dreulio yn arafach. Dylech fwyta llawer o ffeibr yr wythnos hon ac yfed digon o hylifau i osgoi rhwymedd
1 mis di-fêp
Bydd mynd am fis cyfan heb fêps yn golygu bod y cyfnod diddyfnu y tu cefn i chi a bydd y crefu’n llai dwys. Efallai y bydd pyliau o grefu’n parhau oherwydd teimladau ac arferion.
Beth i’w ddisgwyl
Efallai y bydd gennych fwy o awch am fwyd. Dylech osgoi byrbrydau fel bisgedi. Dylech fwyta cig heb lawer o fraster, digonedd o lysiau a ffrwythau
1 diwrnod di-fwg
Bydd mynd drwy eich diwrnod cyntaf heb ysmygu yn gamp fawr, ond dylech fod yn ymwybodol mai ar ddiwrnodau 2 a 3 y bydd y pyliau o grefu gryfaf! Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun ar gyfer rheoli'r rhain. Bydd ein pecyn yn helpu gyda hyn.
1 - 2 wythnos ddi-fwg
Bydd y nicotin allan o'ch corff. Bydd y symptomau diddyfnu corfforol yn pylu.
Beth i’w ddisgwyl
Bydd y rhan fwyaf o’r symptomau diddyfnu’n pylu ymhen pythefnos. Efallai y bydd eich system dreulio yn arafach. Dylech fwyta llawer o ffeibr yr wythnos hon ac yfed digon o hylifau i osgoi rhwymedd
1 mis di-fwg
Bydd mynd am fis cyfan heb sigaréts yn golygu bod y cyfnod diddyfnu y tu cefn i chi a bydd y crefu’n llai dwys.
Beth i’w ddisgwyl
Efallai y bydd gennych fwy o awch am fwyd. Ceisiwch ddewis opsiynau iach ar gyfer byrbrydau a chyfyngu ar opsiynau braster uchel neu siwgr uchel fel bisgedi a chreision
Dibyniaeth nicotin
Chi sydd â Rheolaeth – Daliwch ati!
Mae eich ymatebion yn dangos bod gennych ddibyniaeth isel ar nicotin – sefyllfa wych i fod ynddi. Da iawn am gael lefel gadarn o reolaeth!
P'un a ydych wedi bod yn lleihau eich defnydd o fêps yn raddol neu'n lleihau cryfder y nicotin rydych chi'n ei ddewis, daliwch ati i wneud gwaith gwych - mae'n amlwg yn talu ar ei ganfed. Cadwch sbardunau posibl mewn cof, a byddwch chi’n rhydd o nicotin cyn i chi droi!
Daliwch ati gyda'r gwaith gwych wrth i chi leihau eich defnydd o dybaco a'ch dibyniaeth ar nicotin, ond cofiwch, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw rhoi'r gorau iddi'n llwyr.
Mae Helpwch Fi i Stopio yma i'ch cefnogi wrth i chi gymryd y cam olaf hwnnw i dorri'n rhydd o ysmygu am byth.
Gallwch Oresgyn eich dibyniaeth ar nicotin
Mae eich atebion yn awgrymu y gallech fod yn ddibynnol ar nicotin - ond peidiwch â phoeni, megis dechrau yw hyn, nid rhwystr.
Gall dibyniaeth ar nicotin deimlo'n heriol, ond mae modd ei orchfygu. Drwy’r cynllun a’r gefnogaeth iawn, gallwch gael rheolaeth a thorri’n rhydd. Mae'r pecyn hwn yma i'ch helpu i ddeall eich arferion, creu cynllun personol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu a dod o hyd i'r strategaethau sy'n gweithio orau i chi.
Cofiwch:
- Mae pob cam bach yn cyfri!
- Nid yw pyliau o grefu’n para am byth.
- Gallwch wneud hyn!
Eich cynilion
Rydyn ni wedi cyfrifo faint fyddwch chi'n ei arbed drwy roi'r gorau iddi. Treuliwch ychydig o amser yn dychmygu’r pethau penodol y byddwch chi’n eu gwneud gyda’r arian ychwanegol hwnnw – boed hwnnw’n wyliau, yn hobi newydd, neu’n ffordd o gael ychydig mwy o ryddid ariannol.
Wythnos heb fepio
1 wythnos o ddi-fwg
£0Mis heb fepio
1 mis di-fwg
£0Blwyddyn heb fepio
1 flwyddyn yn ddi-fwg
£0Atgoffwch Eich Hun Pam Rydych Chi Am Roi'r Gorau Iddi
Pan fydd pethau’n teimlo’n anodd wrth roi’r gorau iddi, meddyliwch am y rhesymau y mae rhoi'r gorau i fepio’n bwysig i chi.
Pan fydd pethau’n teimlo’n anodd wrth roi’r gorau iddi, meddyliwch am y rhesymau y mae rhoi'r gorau i ysmygu’n bwysig i chi.
I fod yn iachach
I arbed arian
Beichiogrwydd
I fy nheulu neu ffrindiau
I osod esiampl dda
I gael dyfodol gwell
Argymhelliad i roi’r gorau iddi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol
I adennill rheolaeth
Er mwyn i fwyd flasu'n well
Er mwyn yr amgylchedd
Am fy rhesymau fy hun
Eich sbardunau
Mae bod yn ymwybodol o'ch sbardunau yn rhan allweddol o gadw rheolaeth. Ar y dechrau, efallai y byddai’n ddefnyddiol osgoi'r sbardunau hyn yn llwyr. Dros amser, wrth i chi barhau’n ddi-fêp, byddwch yn darganfod ffyrdd eraill o ymdrin â nhw.
Mae gennym amrywiaeth o strategaethau i chi roi cynnig arnynt, ond efallai y byddwch yn meddwl am rai eich hun hefyd. Daliwch ati i arbrofi nes y byddwch yn dod o hyd i'r hyn sydd wir yn eich helpu i barhau heb fepio.
Mae bod yn ymwybodol o'ch sbardunau yn rhan allweddol o gadw rheolaeth. Ar y dechrau, efallai y byddai’n ddefnyddiol osgoi'r sbardunau hyn yn llwyr. Dros amser, wrth i chi barhau’n ddi-fwg, byddwch yn darganfod ffyrdd eraill o ymdrin â nhw.
Mae gennym amrywiaeth o strategaethau i chi roi cynnig arnynt, ond efallai y byddwch yn meddwl am rai eich hun hefyd. Daliwch ati i arbrofi hyd nes y byddwch yn darganfod beth sy'n eich helpu i aros yn ddi-fwg.
Sbardunau Emosiynol
Arferion sy’n Sbardunau
Sbardunau Cymdeithasol
Sbardunau Diddyfnu Nicotin
Sbardunau Emosiynol
(e.e. teimlo'n orbryderus, yn bryderus, neu'n nerfus)
Mae llawer o bobl yn fepio i hybu hwyliau da neu i ddianc rhag hwyliau drwg. Fodd bynnag, nid yw fepio yn ffordd effeithiol o ymdopi ag emosiynau anodd – mae nicotin yn creu ymdeimlad o ymlacio ar unwaith, felly mae pobl yn fepio gan gredu ei fod yn lleihau straen a gorbryder. Teimlad dros dro yw hwn ac yn fuan bydd yn ildio i symptomau diddyfnu a mwy o ysfa i fepio.
Mae llawer o bobl yn ysmygu i hybu hwyliau da neu i ddianc rhag hwyliau drwg. Fodd bynnag, nid yw ysmygu yn ffordd effeithiol o ymdopi ag emosiynau anodd – mae nicotin yn creu ymdeimlad o ymlacio ar unwaith, felly mae pobl yn ysmygu gan gredu ei fod yn lleihau straen a phryder. Teimlad dros dro yw hwn ac yn fuan bydd yn ildio i symptomau diddyfnu a phyliau cynyddol o grefu.
Rhowch gynnig ar y ffyrdd iachach hyn o ymdopi â straen ac emosiynau:
- Cymerwch seibiant: Camwch yn ôl o sefyllfaoedd gofidus neu rai llawn straen. Ewch am dro, gwrandewch ar gerddoriaeth, neu anadlwch yn ddwfn ac yn araf er mwyn tawelu eich meddwl.
- Gwnewch ymarfer corff: Gall gweithgarwch corfforol helpu i reoli emosiynau cadarnhaol a negyddol. Rhowch gynnig ar ddawnsio, cymryd rhan mewn chwaraeon, neu wneud ymarfer corff ar-lein.
- Gofynnwch am gefnogaeth: Rhannwch eich uchafbwyntiau a'ch isafbwyntiau gyda phobl sy'n poeni amdanoch chi.
- Byddwch yn ymwybodol o'ch iechyd meddwl: Cadwch lygad am arwyddion o iselder, a all fod yn ddifrifol.
Arferion sy’n Sbardunau
(e.e. gorffen pryd o fwyd, gweithio, neu astudio)
Weithiau mae fepio’n dod yn rhan ddifeddwl o'ch trefn ddyddiol. Mae'n bwysig torri'r cysylltiadau awtomatig hyn.
Weithiau mae ysmygu’n dod yn rhan ddifeddwl o'ch trefn ddyddiol. Mae'n bwysig torri'r cysylltiadau awtomatig hyn.
Strategaethau i dorri'r arfer:
- Newidiwch eich trefn arferol: Ewch ar lwybr gwahanol i'r gwaith neu newidiwch ble rydych chi'n cael cinio.
- Gosodwch heriau bach: Dewiswch un gweithgaredd lle byddwch yn fepio a cheisiwch ei osgoi. Pan fyddwch chi’n llwyddo, ewch ymlaen at y nesaf.
- Cadwch bethau mewn cof: Sylwch pan fyddwch yn estyn am fêp fel mater o arfer a dewiswch weithred wahanol yn ei le.
- Gosodwch heriau bach: Dewiswch un gweithgaredd lle byddwch yn ysmygu a cheisiwch ei osgoi. Pan fyddwch chi’n llwyddo, ewch ymlaen at y nesaf.
- Cadwch bethau mewn cof: Sylwch pan fyddwch yn estyn am sigarét fel mater o arfer a dewiswch weithred wahanol yn ei le.
Sbardunau Cymdeithasol (e.e. cymdeithasu mewn tafarn, cael seibiant yn y gwaith neu fod o gwmpas eraill sy'n fepio)
(e.e. cymdeithasu mewn tafarn, cael seibiant yn y gwaith neu fod o gwmpas eraill sy'n ysmygu)
Gall rhoi'r gorau iddi deimlo'n arbennig o heriol pan fyddwch chi o gwmpas rhywrai eraill sy'n fepio. Mae'n helpu i addasu eich cylch cymdeithasol neu arferion ar-lein, hyd yn oed dros dro.
Gall rhoi'r gorau iddi deimlo'n arbennig o heriol pan fyddwch chi o gwmpas eraill sy'n ysmygu. Mae'n helpu i addasu eich cylch cymdeithasol neu arferion ar-lein, hyd yn oed dros dro.
Ffyrdd o reoli sbardunau cymdeithasol:
- Osgowch sefyllfaoedd sy’n temtio: Treuliwch amser mewn amgylcheddau di-fêp ac esboniwch i ffrindiau a theulu bod angen eu cefnogaeth arnoch.
- Cymerwch seibiant digidol: Peidiwch â dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n rhannu cynnwys am fepio, a rhwystrwch negeseuon marchnata a allai eich temtio.
- Byddwch yn barod i ddweud na: Os bydd rhywun yn cynnig fêp i chi, byddwch yn barod ag ymateb cwrtais ond cadarn, fel “Na, diolch – dw i wedi rhoi’r gorau iddi.”
- Osgowch sefyllfaoedd sy’n temtio: Treuliwch amser mewn amgylcheddau di-fwg ac esboniwch i ffrindiau a theulu bod angen eu cefnogaeth arnoch.
- Cymerwch seibiant digidol: Peidiwch â dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n rhannu cynnwys am fepio, a rhwystrwch negeseuon marchnata a allai eich temtio.
- Byddwch yn barod i ddweud na: Os bydd rhywun yn cynnig sigarét i chi, byddwch yn barod ag ymateb cwrtais ond cadarn, fel, “Na, diolch – dw i wedi rhoi’r gorau iddi.”
Sbardunau Diddyfnu Nicotin
Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i fepio, bydd angen amser ar eich corff a'ch ymennydd i addasu i fynd heb nicotin. Gelwir hyn yn ddiddyfnu nicotin. Gall fod yn brofiad gwahanol i bawb, ac er y gall fod yn anghyfforddus i ddechrau, bydd y symptomau hyn yn diflannu wrth i'ch corff ddod i arfer â bod yn rhydd o nicotin.
Pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu, mae angen amser ar eich corff a'ch ymennydd i addasu i fynd heb nicotin. Gelwir hyn yn ddiddyfnu nicotin. Gall fod yn brofiad gwahanol i bawb, ac er y gall fod yn anghyfforddus i ddechrau, bydd y symptomau hyn yn diflannu wrth i'ch corff ddod i arfer â bod yn rhydd o nicotin.
Dyma rai ffyrdd o reoli diddyfnu ac aros ar y trywydd iawn:
- Gofalwch amdanoch chi eich hun: Bwytwch yn dda, gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch hydradu a’ch bod yn cael digon o orffwys i helpu eich corff drwy'r newidiadau.
- Gofynnwch am gefnogaeth ffrindiau a theulu: Dywedwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu eich bod chi'n rhoi'r gorau iddi a gofynnwch am eu cefnogaeth.
- Ystyriwch Therapi Disodli Nicotin (NRT): Gall cynhyrchion fel clytiau, gwm a chwistrelliadau helpu i leihau pyliau o grefu a gwneud diddyfnu'n haws. Mae'r rhain ar gael dros y cownter yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd a fferyllfeydd.
- Ystyriwch Therapi Disodli Nicotin (NRT): Gall clytiau, gwm, chwistrelliadau i’r geg neu losin helpu i leddfu eich symptomau diddyfnu. Gellir prynu'r rhain o'ch fferyllfa neu archfarchnad leol.
- Fel arall, gall Helpwch Fi i Stopio eich cefnogi drwy roi NRT am ddim a/neu feddyginiaethau presgripsiwn yn unig ochr yn ochr â'n cymorth ymddygiad arbenigol. Cliciwch yma i ddechrau arni Cliciwch yma i ddechrau.
Ymladd chwantau
Pethau dros dro yw pyliau o grefu a byddant yn pylu dros amser po hiraf y byddwch wedi rhoi’r gorau iddi. Pan fyddwch yn crefu am fêp, chwiliwch am rywbeth arall i'w wneud yn lle fepio. Bydd yn pasio. Y peth pwysig yw rhoi cynnig ar wahanol bethau hyd nes y byddwch yn dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi.
Pethau dros dro yw pyliau o grefu a byddant yn pylu dros amser po hiraf y byddwch wedi rhoi’r gorau iddi. Pan fyddwch yn crefu am fêp, chwiliwch am rywbeth arall i'w wneud yn lle fepio. Bydd yn pasio. Y peth pwysig yw rhoi cynnig ar wahanol bethau hyd nes y byddwch yn dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi.
Oes angen i chi gadw eich dwylo a'ch ceg yn brysur?
- Ceisiwch ddal gwelltyn yn eich llaw ac anadlu drwyddo.
- Chwaraewch gyda darn arian neu glip papur i gadw'ch dwylo'n brysur.
Ydych chi'n fepio i leddfu straen neu wella eich hwyliau?
Ydych chi'n ysmygu i leddfu straen neu wella'ch hwyliau?
- Ceisiwch ymarfer anadlu'n ddwfn er mwyn ymdawelu neu ewch am dro i leddfu eich rhwystredigaeth.
- Os oes angen i chi siarad â rhywun, trowch at eich ffrindiau neu eich teulu am gefnogaeth neu ffoniwch C.A.L.L. ar 0800 132 737. Llinell gymorth iechyd meddwl Cymru gyfan yw C.A.L.L sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ydych chi’n cael trafferth cadw'n brysur a rhoi eich meddwl ar waith?
- Gwnewch restr o dasgau y gallwch eu cyflawni pan fyddwch chi'n teimlo pwl o grefu’n eich taro. Gall y rhestr hon gynnwys pethau i'w gwneud - fel ateb negeseuon e-bost, mynd ar neges neu gynllunio eich amserlen ar gyfer y diwrnod canlynol.
Ydych chi'n fepio am ei fod yn bleserus ac yn ymlaciol?
Ydych chi'n ysmygu oherwydd ei fod yn bleserus ac yn ymlaciol?
- Tretiwch eich hun i bethau sy’n rhoi pleser i chi fel gwrando ar eich hoff ganeuon, trefnu noson ffilm gyda ffrindiau, neu rhowch eich arian fêps naill ochr er mwyn cael trêt arbennig pan fyddwch yn cyrraedd carreg filltir ddi-fêp.
- Tretiwch eich hun i bethau sy’n rhoi pleser i chi fel gwrando ar eich hoff ganeuon, trefnu noson ffilm gyda ffrindiau, coginio prydau blasus newydd neu gynilo arian er mwyn cael trêt arbennig pan fyddwch yn cyrraedd carreg filltir ddi-fêp.
Ydych chi'n mynd yn bigog ac yn orbryderus heb fêps?
- Does dim rhaid i chi roi’r gorau iddi’n gyflym - mae nifer o oedolion yn gallu rhoi’r gorau iddi’n llwyddiannus drwy leihau faint o fêps y maent yn eu defnyddio a faint o nicotin sydd ynddynt. Bydd hyn yn lleihau symptomau diddyfnu.
- Os hoffech chi roi'r gorau iddi ar unwaith - gall Therapi Disodli Nicotin (NRT), fel clytiau, gwm, chwistrelliadau i’r geg neu losin helpu i leddfu eich symptomau diddyfnu.
- Siaradwch â Fferyllydd neu gynghorydd Helpa Fi i Stopio i weld pa fath o NRT sy'n iawn i chi ac i gael help i ddefnyddio eich dewis yn iawn.
Ydych chi'n mynd yn bigog ac yn orbryderus heb sigaréts?
- Ystyriwch Therapi Disodli Nicotin (NRT), fel clytiau, gwm, chwistrelliadau i’r geg neu losin
- Siaradwch â Fferyllydd neu gynghorydd Helpa Fi i Stopio i weld pa fath o NRT sy'n iawn i chi ac i gael help i ddefnyddio eich dewis yn iawn.
Ydych chi'n fepio i roi hwb i’r egni?
Ydych chi'n ysmygu i roi hwb i’r egni?
- Er mwyn cadw eich lefel egni'n sefydlog, dylech wneud ymarfer corff yn rheolaidd a chael byrbrydau iach drwy gydol y dydd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg yn ystod y nos i'ch helpu rhag teimlo'n swrth yn ystod y dydd.
Rhoi'r Gorau i Fepio Dros Amser
Rydych chi wedi penderfynu rhoi'r gorau i fepio’n raddol - mae hynny'n ddewis gwych. Gall gwneud y newid hwn ar eich cyflymder eich hun ei wneud yn haws ei drin ac yn fwy cynaliadwy. Dyma sut i gymryd y camau cyntaf:
1. Lleihau’r Cryfder Nicotin
- Defnyddiwch fêp y gellir ei ail-lenwi i gael mwy o reolaeth dros gryfder eich e-hylif.
- Gwiriwch gynnwys nicotin eich e-hylif cyfredol (wedi'i fesur mewn mg/ml).
- Dylech leihau’r cryfder yn raddol ar gamau sy'n gweithio i chi – er enghraifft: 20mg → 18mg → 12mg → 6mg → 0mg.
- Mae taith pawb yn wahanol, felly byddwch yn garedig â chi eich hun ac addaswch yn ôl yr angen.
- Os ydych chi'n fepio’n amlach wrth i chi leihau’r cryfder, gallai olygu eich bod chi'n lleihau'n rhy gyflym – cymerwch eich amser a gwrandewch ar eich corff.
2. Cynyddu'r Amser Rhwng Fepio
- Dylech ymestyn yr amser yn raddol rhwng pob sesiwn fepio.
- Er enghraifft, os ydych chi’n fepio bob 20 munud fel arfer, ceisiwch ymestyn hyn i 40 munud, ac yna i awr, ac yn y blaen.
- Atgoffwch eich hun fod pob cyfnod bach o oedi gam yn nes at fod yn ddi-fêp.
3. Creu Mannau Di-Fêp
- Dewiswch fannau lle na fyddwch yn fepio, fel eich car, yn y gwaith, neu rai ystafelloedd yn eich cartref.
- Ehangwch yn raddol y mannau di-fêp hyd nes y bydd fepio’n dod yn llai o arfer.
- Cofiwch fod pob man y byddwch chi’n ei wneud yn un di-fêp yn fan lle y byddwch yn meithrin arferion iachach.
Mae cyflymder y dull hwn yn dibynnu'n llwyr arnoch chi. Yn y camau cynnar, mae'n aml yn well lleihau'n araf, ond os byddwch chi’n rheoli eich pyliau o grefu yn dda, gallwch anelu at leihau bob pythefnos i bedair wythnos – neu hyd yn oed yn hirach os oes angen. Byddwch yn falch o bob cam ymlaen, ni waeth pa mor fach ydyw.
Rhoi'r Gorau i Fepio ar Unwaith
Rydych chi wedi penderfynu rhoi'r gorau i fepio ar unwaith - mae hyn yn golygu cryn dipyn o benderfyniad ond, gyda'r gefnogaeth iawn, gallwch wneud hyn.
Cliriwch yr Holl Bethau sy’n Eich Atgoffa o Fepio
- Paratowch eich hun ar gyfer llwyddo drwy gael gwared ar bob eitem fepio ar eich diwrnod rhoi'r gorau iddi, neu cyn hynny.
- Gwaredwch eich fêps, poteli e-hylif, podiau, gwefrwyr, ac unrhyw eitemau eraill sy'n gysylltiedig â fepio.
- Peidiwch â dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n hyrwyddo fepio - gall hyd yn oed y pethau bach sy’n atgoffa rhywun am fepio ei gwneud hi’n fwy anodd rhoi’r gorau iddi.
- Mae clirio'r sbardunau hyn yn gam cyntaf pwerus tuag at dorri'r arfer.
Ystyriwch Therapi Disodli Nicotin (NRT)
- Gall newid i NRT helpu i reoli diddyfnu nicotin a’r pyliau o grefu gan wneud dyddiau cynnar rhoi'r gorau iddi yn haws i'w rheoli.
- Nicorette® QuickMist yw'r unig NRT sydd wedi'i gymeradwyo'n benodol ar gyfer rhoi'r gorau i fepio. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sy'n rhoi'r gorau i nicotin yn canfod bod paru cynnyrch sy'n gweithredu'n gyflym fel hwn â chynnyrch sy’n gweithredu dros gyfnod hir fel clwt yn eu helpu orau i reoli pyliau o grefu. Siaradwch â'ch fferyllydd lleol i ddarganfod pa gynhyrchion NRT allai fod orau i chi.
- Noder: Ar hyn o bryd, ni all Helpa Fi i Stopio ddarparu NRT am ddim ar gyfer rhoi'r gorau i fepio, ond mae'r cynhyrchion hyn ar gael dros y cownter yn eich fferyllfa neu archfarchnad leol.
Adeiladu eich rhwydwaith cymorth:
Mae rhoi'r gorau iddi yn haws pan fydd gennych gefnogaeth gadarnhaol o'ch cwmpas. Rhowch wybod i'ch teulu a'ch ffrindiau eich bod yn rhoi'r gorau iddi a gofynnwch am eu hanogaeth.
Rhannwch eich dyddiad rhoi’r gorau iddi:
Rhowch wybod iddynt pryd rydych yn bwriadu rhoi'r gorau iddi fel y gallant eich cefnogi.
Eglurwch beth sy'n helpu (a beth sydd ddim yn helpu):
Er enghraifft, efallai y byddwch yn dweud, “Pan fydda i’n cael pwl o grefu am rywbeth, mae'n help mawr pan fyddi di’n tynnu fy sylw,” neu “Mae'n ei gwneud hi'n fwy anodd i mi pan fyddi’n sôn am gamgymeriadau'r gorffennol.”
Ymunwch â thîm os gallwch chi:
Os oes rhywun agos atoch chi hefyd yn fepio, ystyriwch roi'r gorau iddi gyda'ch gilydd. Gall cefnogi ein gilydd wneud y daith yn haws ac yn fwy ysgogol. Cynlluniwch weithgareddau di-fêp gyda'ch gilydd a dathlwch bob carreg filltir.
Os yw rhywun agos atoch chi hefyd yn ysmygu, ystyriwch roi'r gorau iddi gyda'ch gilydd. Gall cefnogi ein gilydd wneud y daith yn haws ac yn fwy ysgogol. Cynlluniwch weithgareddau di-fwg gyda'ch gilydd a dathlwch bob carreg filltir.
Y Camau Nesaf
Rydych chi wedi gwneud y penderfyniad sy'n newid eich bywyd i roi'r gorau i ysmygu – mae hwnnw'n ddewis pwerus. Mae'n cymryd penderfyniad go iawn, ond gyda'r gefnogaeth gywir, gallwch wneud hyn.
Dyma rai awgrymiadau a chynghorion terfynol i'ch helpu i ddechrau arni:
Cliriwch yr Holl Bethau sy’n Eich Atgoffa o Ysmygu
- Paratowch eich hun ar gyfer llwyddo drwy gael gwared ar bob eitem fepio ar eich diwrnod rhoi'r gorau iddi, neu cyn hynny.
- Gwaredwch eich sigaréts, tanwyr sigaréts, blychau llwch ac unrhyw eitemau eraill sy'n gysylltiedig â mwg.
- Peidiwch â dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n hyrwyddo fepio - gall hyd yn oed y pethau bach sy’n atgoffa rhywun am fepio ei gwneud hi’n fwy anodd rhoi’r gorau iddi.
- Mae clirio'r sbardunau hyn yn gam cyntaf pwerus tuag at dorri'r arfer.
Ystyriwch Therapi Disodli Nicotin (NRT)
- Gall newid i NRT helpu i reoli diddyfnu nicotin a’r pyliau o grefu gan wneud dyddiau cynnar rhoi'r gorau iddi yn haws i'w rheoli.
- Beth yw NRT? ? - Mae'r cynhyrchion hyn, fel clytiau neu chwistrelliadau, yn rhoi dosau llai o nicotin heb y cemegau niweidiol posib sydd mewn hylifau mwg.
Rhoi'r gorau iddi drwy ddefnyddio Helpa Fi i Stopio
Ydych chi’n Barod i Roi’r Gorau Iddi? Rydyn Ni'n Yma i’ch Cefnogi
Gall torri’n rhydd o ysmygu fod yn anodd, ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae ein cymorth am ddim drwy’r GIG ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu yn golygu eich bod dair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi am byth.
Ymunwch â'r 100,000 o bobl yng Nghymru sydd eisoes wedi gwneud y newid. Bydd ein cynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda chi i greu cynllun personol ar gyfer rhoi’r gorau iddi a fydd yn addas i chi. Bydd gwiriadau wythnosol yn cael eu gwneud i’ch cadw ar y trywydd iawn a bydd mynediad at therapi disodli nicotin (NRT) am ddim ar gael neu feddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu i roi hwb i’ch siawns o lwyddo.
Dim ceryddu, dim beirniadaeth – dim ond cefnogaeth ymarferol ac anogaeth bob cam o'r ffordd.
Cymerwch y cam cyntaf hwnnw heddiw. Rhoi'r gorau iddi’n hyderus. Rhoi'r gorau iddi gyda chefnogaeth. Rhoi'r gorau iddi am byth.