Sut i roi'r gorau i fêpio

Gall rhoi'r gorau i fêpio fod yn anodd, ond gyda chynllun a chefnogaeth dda, gallwch chi lwyddo!

Os mai’r gwaharddiad ar fêps tafladwy yw’r hwb sydd ei angen arnoch i roi’r gorau iddi, dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i lwyddo:

Er nad yw Helpa Fi i Stopio ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth stopio fêpio yn llwyr (fel ein cefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu), rydym ni dal yma i helpu.

Os hoffech chi siarad ag un o’n cynghorwyr arbenigol am eich cynllun rhoi’r gorau iddi personol a grëwyd gyda’n offeryn ar-lein, gallwn gynnig sesiwn untro i gefnogi eich taith rhoi’r gorau iddi.

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau iddi

Pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i fêpio, bydd eich corff a'ch meddwl yn cymryd peth amser i addasu. Mae'n normal profi:

  • Ysfa gref

    Mae eich ymennydd wedi dod i arfer â chael nicotin yn rheolaidd

  • Tymer flin neu hwyliau isel

    Gall diddyfnu nicotin effeithio ar eich hwyliau

  • Trafferth canolbwyntio

    Wrth i’ch corff addasu i fywyd heb nicotin

  • Mwy o archwaeth

    Weithiau mae’n sgîl-effaith wrth i’ch corff addasu

  • Tarfu ar gwsg

    Dylai hyn wella wrth i chi addasu

Mae’r symptomau hyn yn rhan arferol o’r broses rhoi’r gorau iddi ac maent yn tueddu i ddod i ben yn gymharol gyflym. Gall atgoffa’ch hun o’ch rhesymau dros roi’r gorau iddi eich helpu i ymdopi â’r dyddiau anodd.

Beth os byddaf yn mynd yn ôl i fêpio?

Mae hyn yn normal - nid yw'n golygu eich bod wedi methu. Cofiwch:

  • Os oeddech chi'n fêpio i roi'r gorau i ysmygu...

    …mae mynd yn ôl i fêpio yn llawer gwell na dechrau ysmygu eto

  • Ystyriwch hynny fel profiad dysgu...

    …a rhowch gynnig arall arni pan fyddwch chi’n barod. Mae pob ymgais yn eich dwyn yn agosach at lwyddiant.

Gallwch chi wneud hyn

Gall rhoi'r gorau i fêpio fod yn anodd, ond mae pob cam ymlaen yn gynnydd.

P’un a ydych chi’n rhoi’r gorau iddi’n raddol neu ar unwaith, gyda’r cynllun a’r gefnogaeth gywir, gallwch chi gyrraedd eich nod.

Switching to English

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i helpafiistopio@wales.nhs.uk gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.