Gofynnwch I ni eich ffonio'n Ôl
  • Cymorth cyfrinachol heb barn sydd ar gael am ddim gan arbenigwr cyfeillgar ar roi’r gorau i smygu
  • Cymorth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
  • Cymorth un i un neu gwrdd â smygwyr eraill
  • Sesiynau wythnosol wedi’u teilwra i ddiwallu eich anghenion
  • Monitro eich cynnydd
  • Mynediad i feddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu am ddim
  • Mae defnyddio cymorth am ddim y GIG a meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu yn rhoi’r cyfle gorau i chi roi’r gorau i smygu unwaith ac am byth.
  • Byddwch yn gallu siarad ag arbenigwr roi’r gorau i smygu am y camau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gorau iddi a sut y gallwch oresgyn sefyllfaoedd anodd.
  • Byddwch yn gallu gwirio eich cynnydd.
  • Bydd meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu gwerth tua £250 ar gael i chi am ddim. Bydd y feddyginiaeth hon yn eich helpu i reoli’r ysfa i smygu a symptomau rhoi’r gorau iddi.
  • Mynd i bob un o’ch apwyntiadau wythnosol. Bydd hyn yn rhoi’r siawns orau i chi o lwyddo. Yn dibynnu ar y math o gymorth rydych chi’n dewis, gall apwyntiadau bara rhwng 20 munud ac awr.
  • Pennu dyddiad ar gyfer rhoi’r gorau iddi a dechrau ar eich taith ddi-fwg o fewn y pythefnos gyntaf.
  • I gael meddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu am ddim bydd angen i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth Helpa Fi i Stopio a chael eich cynghori ar y therapi amnewid nicotin (NRT) mwyaf priodol i chi.
  • Bydd eich cynghorydd Helpa Fi i Stopio yn gallu argymell y therapi amnewid nicotin (NRT) gorau i chi. Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn yr ydych wedi rhoi cynnig arno o’r blaen a’ch hanes meddygol.
  • Darperir therapi amnewid nicotrin (NRT) am ddim am 12 wythnos ochr yn ochr â 5 sesiwn o gymorth ymddygiadol.
  • Sylwch, nid yw meddyginiaethau presgripsiwn yn unig fel Zyban a Champix ar gael ar hyn o bryd.
  • Gall defnyddio meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu helpu mewn sefyllfaoedd anodd lle mae’n anoddach anwybyddu’r ysfa i smygu.
  • Gallwch ddefnyddio’r feddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu i’ch helpu i reoli symptomau rhoi’r gorau iddi yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf.
  • Drwy ddefnyddio meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu, dylai fod yn haws rheoli eich gweithgareddau o ddydd i ddydd.
  • Dim ond os byddwch chi’n eu defnyddio gan ddilyn cyngor eich gweithiwr iechyd proffesiynol y bydd meddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu yn gweithio.
  • Fel arfer, defnyddir meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu am tua 12 wythnos yn rheolaidd.
  • Dylech sicrhau bod pob meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu yn cael ei storio’n gywir a’i chadw oddi wrth blant.
  • Mae ceisio rhoi’r gorau iddi ar eich pen eich hun yn gallu bod yn anodd. Mae hunan gymorth, gan gynnwys apiau megis Smoke Free – quit smoking now, gwefannau a sigarennau electronig yn gallu gwella’ch siawns o lwyddo.
  • Am ragor o wybodaeth am sigarennau electronig cliciwch yma.
  • Smoke Free – quit smoking now  yw un o’r apiau mwyaf poblogaidd ar gyfer rhoi’r gorau i smygu ac mae ar gael am ddim.
    Get it on Google PlayGet it on Google Play
  • Os ydych yn awyddus i roi’r gorau iddi ar unwaith, gallwch fonitro eich cynnydd ar yr ap Smoke Free – quit smoking now.
  • Mae Smoke Free – quit smoking now yn eich galluogi i nodi’r nifer o ddyddiau rydych chi wedi rhoi’r gorau iddi ac unrhyw sefyllfaoedd anodd rydych wedi eu hwynebu. Mae hefyd yn rhoi awgrymiadau a chyngor i’ch ysgogi chi.
  • Bydd Smoke Free – quit smoking now hefyd yn rhoi gwybod i chi os oes angen mwy o gymorth arnoch chi gan un o wasanaethau Helpa Fi i Stopio.
  • Ar y dyddiad y byddwch yn rhoi’r gorau iddi, defnyddio grym eich ewyllys i beidio â smygu un pwff o sigarét.